Yma, cewch wybodaeth am eich cyndadau neu am boblogaeth eich ardal drwy ddefnyddio'r cyfrifiad.
Mae cyfrifiad yn casglu ystadegau am holl ddinasyddion y DU gan gynnwys oed, crefydd, statws cyflogaeth, iechyd a threfniadau byw.
Caiff data'r cyfrifiad ei gasglu bob 10 mlynedd yn y DU, ac ar ôl 100 mlynedd bydd y data personol ar gael i'r cyhoedd.
Mae dwy wefan ar gael i gychwyn chwilio drwy'r cyfrifiad.
Ar gyfer cyfrifiad 2001, defnyddiwch wefan Ystadegau Gwladol. Bydd yn eich galluogi i weld manylion ystadegau am boblogaeth unrhyw awdurdod lleol yn y DU, neu weld data cenedlaethol.
Ar gyfer cyfrifiad rhwng 1841 ac 1901, dilynwch y ddolen i wefan yr Archifau Cenedlaethol isod.
Mae chwiliadau sylfaenol yn rhad ac am ddim, ond os hoffech weld cofnod llawn unigolyn neu gartref, yna codir ffi fechan.