Budd-dal ar gyfer pobl o dan 60 sydd ar incwm isel a heb fod â llawer o gynilion yw'r Cymhorthdal Incwm. Gallwch wneud cais am y budd-dal ar-lein (Lloegr, Cymru, Yr Alban yn unig).
Mae gwefan y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnwys gwybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gan gynnwys faint allwch chi ei gael, sut i'w hawlio a beth i'w wneud os bydd newid yn eich amgylchiadau.
Gallwch:
Hawliwch yn syth; os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli budd-dal.
Llwythwch y ffurflen o'r ddolen isod, a fydd yn eich arwain at wefan y Ganolfan Byd Gwaith, a llenwch hi. I fynd at y ffurflen bydd angen copi o Adobe Reader arnoch. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.