Gwnewch gais ar-lein i gwyno neu apelio i dribiwnlys cyflogaeth.
Cyrff barnwrol yw'r tribiwnlysau cyflogaeth a sefydlwyd i ddatrys anghydfod ynghylch hawliau cyflogaeth. Mae'r materion hyn yn cynnwys diswyddo annheg, taliadau pan fydd swydd yn dod i ben, rhyw, gwahaniaethu ar sail anabledd a hil ynghyd â materion penodol yn gysylltiedig â thelerau ac amodau cyflogaeth.
I wneud cais dilynwch y ddolen isod, a fydd yn eich arwain at wefan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth. Gallwch gwblhau'r cais ar-lein neu lenwi'r ffurflen ar-lein, ei hargraffu a'i phostio os yw'n well gennych (ceir cyfarwyddiadau postio ar y ffurflen).
Cymru, yr Alban a Lloegr yn unig.