E-wasanaeth rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth
Gallwch gyfrifo faint o Bensiwn y Wladwriaeth yr ydych yn debygol o'i dderbyn pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein:
- os ydych chi'n byw yn y DU
- os ydych fwy na phedwar mis i ffwrdd o oed Pensiwn y Wladwriaeth
- os nad ydych yn weddw neu bod eich partner sifil wedi marw
Os na allwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein, gallwch gael rhagolwg drwy lenwi'r ffurflen gais (BR19) a'i hanfon at y Tîm Rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth:
- os ydych chi'n byw yn y DU
- os ydych fwy na 30 diwrnod i ffwrdd o oed Pensiwn y Wladwriaeth
Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
I gael gwybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi'n debygol o'i gael pan gyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wneud y canlynol:
- cael rhagolwg pensiwn ar-lein
- argraffu ffurflen gais (BR19), ei llenwi a'i phostio
- ffonio Tîm Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar 0845 3000 168 (ffôn testun 0845 3000 169) - mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn