Cewch wybod yma a allech chi gael cymorth cyfreithiol gan y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.
Efallai y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim os na fyddwch yn gellu ei fforddio. Mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn cynnig y gwasanaeth hwn trwy gynghorwyr cyfreithiol a thwrneiod, asiantaethau cyngor arbenigol a sefydliadau cyhoeddus eraill.
Dilynwch y ddolen 'Cyfrifiannell Cymorth Cyfreithiol' isod i gael gwybod a ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol am ddim.
Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi am eich amgylchiadau personol ac am y math o gais y dymunwch ei wneud. Hefyd, gofynnir cwestiynau i chi am eich incwm a'ch cynilion (cyfalaf). Felly mae'n bosib y bydd gofyn i chi gael dogfennau perthnasol wrth law, megis slipiau cyflog, manylion cynilion a buddsoddiadau neu gostau gofal plant.
Bydd y gyfrifiannell yn dangos a ydych yn debygol o fod yn gymwys yn ariannol i gael Cymorth Cyfreithiol. Bydd hefyd yn nodi a fyddai'n rhaid i chi gyfrannu tuag at y cymorth hwn.
Bydd y ddolen isod yn eich arwain at dudalen a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am sut i ddefnyddio'r gwasanaeth.