Anfonwch neges at MI5 os oes gennych wybodaeth a allai helpu i amddiffyn y wlad rhag bygythiadau i ddiogelwch y wlad, megis terfysgaeth.
Defnyddiwch y ddolen isod, a wnaiff eich arwain at wefan MI5. Gallwch roi eich enw a'ch manylion cyswllt os ydych yn dymuno. Anfonir eich neges dros gysylltiad diogel â'r rhyngrwyd.
Ar ôl anfon y neges, fe welwch gydnabyddiaeth ar y sgrin. Asesir pob neges yn ofalus, ond ni all MI5 addo y byddant yn ateb pob un ohonynt.
Os bydd eich gwybodaeth yn ymwneud â bygythiad sydd ar fin digwydd i fywyd neu i eiddo, cysylltwch â'r heddlu ar 999 neu â Llinell Gwrthderfysgaeth yr heddlu ar 0800 789 321.