Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Sefyll ffug brawf theori yrru swyddogol     

Cewch sefyll ffug brawf theori yrru yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar-lein am ddim. Mae profion ymarferol ar gael ar gyfer gyrwyr ceir, beiciau modur, lorïau a bysiau. Cael gwybod sut i sefyll ffug brawf.    

Ffug brofion theori car   

Mae pob prawf yn cynnwys 50 o gwestiynau amlddewis. Y marc pasio yw 43 allan o 50.

Ffug brofion theori beic modur   

Mae pob prawf yn cynnwys 50 o gwestiynau amlddewis. Y marc pasio yw 43 allan o 50.

Ffug brofion theori cerbydau nwyddau mawr      

Mae pob prawf yn cynnwys 50 o gwestiynau amlddewis. Mae’r prawf theori cerbydau nwyddau mawr go iawn yn cynnwys 100 o gwestiynau a’r marc pasio yw 85 allan o 100.

Ffug brofion theori Cerbydau cludo teithwyr   

Mae pob prawf yn cynnwys 50 o gwestiynau amlddewis. Mae’r prawf theori cerbydau cludo teithwyr go iawn yn cynnwys 100 o gwestiynau a’r marc pasio yw 85 allan o 100.

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae’r sgriniau’r ffug brofion yn edrych yn debyg i’r prawf theori y byddwch yn sefyll yn y ganolfan brawf.

Ni allwch ymarfer y rhan adnabod peryglon gyda’r profion hyn.

I gael gwybod mwy ynghylch sut y mae’r prawf theori yn gweithio, cliciwch ar y ddolen isod

Er mwyn sefyll y ffug brofion hyn, mae’n rhaid bod Adobe Flash 9 neu un ddiweddarach wedi’i osod ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Flash 9, gallwch lwytho’r fersiwn fwyaf diweddar oddi ar wefan Adobe. 

Deunyddiau dysgu swyddogol

Rhaglenni iPhone

Cael gwybod am raglenni iPhone ynghylch prawf theori swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn cyhoeddi amrywiaeth eang o ddeunyddiau dysgu swyddogol i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich prawf theori. Mae’r rhain yn cynnwys:

  •  lawrlwythiadau 
  •  rhaglenni iPhone 
  •  DVDs 
  •  CD-ROMs 
  •  llyfrau

Mae’r rhain ar gael o siop lyfrau ar-lein swyddogol y Llyfrfa a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru, neu o’r rhan fwyaf o siopau llyfrau ar y stryd fawr neu ar-lein.

Astudio Rheolau'r Ffordd Fawr

Os ydych am ddysgu gyrru, mae'n rhaid i chi ddarllen Rheolau'r Ffordd Fawr. Mae amryw o’r rheolau yn ofynion cyfreithiol, sy’n golygu y byddwch yn torri’r gyfraith os na fyddwch yn eu dilyn.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU