Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod yn rhiant os ydych chi'n anabl

Os ydych chi'n bwriadu dod yn rhiant neu am ysgwyddo cyfrifoldebau rhiant, efallai y byddwch yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch i ofalu am eich plentyn. Gall hyn fod yn gymorth yn y cartref, cyfarpar neu gymorth gyda phethau bob dydd fel ymweld ag ysgol eich plentyn.

Gall eich awdurdod lleol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, adrannau iechyd ac addysg, gynnig y cymorth hwn. Mae canllawiau'r Llywodraeth yn nodi y dylid cefnogi pobl anabl yn eu teulu ac yn eu rôl fel rhieni.

Cael babi a materion iechyd

Mae'n bwysig cael mynediad at wybodaeth a'r gwasanaethau mamolaeth cywir, sy'n ystyried cyflwr meddygol a/neu anabledd mam.

Gallech ddechrau trwy siarad am unrhyw broblemau gyda'ch meddyg. Dyma rai o'r pethau y gallech eu trafod:

  • cynllunio beichiogrwydd a beichiogi
  • sut gall anabledd a/neu gyflwr meddygol penodol effeithio ar feichiogrwydd a genedigaeth (gan gynnwys materion fel cymryd meddyginiaeth wrth fwydo o'r fron)
  • sganiau a phrofion
  • cefnogaeth iechyd i chi a'ch plentyn ar ôl genedigaeth

Gall eich meddyg eich cyfeirio at arbenigwr neu ymgynghorydd.

Dosbarthiadau magu plant

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn cwmpasu llawer o agweddau ar fywyd bob dydd, gan gynnwys mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Dylai dosbarthiadau ar gyfer darpar rieni anabl wneud 'addasiadau rhesymol' er mwyn eu gwneud yn hwylus i bawb. Gall addasiadau rhesymol gynnwys y canlynol:

  • defnyddio beiro a phad ysgrifennu i gyfathrebu gyda chi os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich clyw a/neu ddarparu dolen sain mewn ystafell benodol
  • cynnal y dosbarth mewn lleoliad hygyrch (i osgoi grisiau, er enghraifft) ar gyfer rhieni sy'n gorfforol anabl
  • trefnu i rywun egluro'r hyn a ddywedir yn y dosbarth yn symlach ar gyfer rhywun ag anabledd dysgu

Rhowch wybod i drefnwyr y dosbarthiadau am unrhyw ofynion sydd gennych cyn mynychu am y tro cyntaf.

Cael plentyn a'r effaith ar eich budd-daliadau

Os ydych chi'n derbyn Lwfans Byw i'r Anabl a bod eich anghenion gofal yn newid o ganlyniad i'ch rôl fel rhiant, dylech gysylltu â'r llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl. Yna, bydd modd i wneuthurwr penderfyniadau ystyried a yw'r newid yn eich amgylchiadau'n effeithio ar y gyfradd o Lwfans Byw i'r Anabl y dylech ei derbyn.

Y llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl:

Ffôn: 08457 123 456

Ffôn testun: 08457 22 44 33

Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

E-bost: DCPU.Customer-Services@dwp.gsi.gov.uk

Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth Typetalk RNID.

Mannau eraill i gael gwybodaeth a chymorth

Gallwch gael gwybodaeth gan fudiadau ac elusennau penodol am ddod yn rhiant, neu am fod yn rhiant. Gallwch gael cyngor defnyddiol am gyflyrau genetig mewn teuluoedd a sut yr effeithir ar anabledd penodol wrth ddod yn rhiant.

Yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am iechyd ar Directgov, ceir adran gyffredinol ar gyfer rhieni hefyd, sy'n cynnwys gwybodaeth am gael babi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU