Mae amrywiaeth eang o gyfarpar ar gael ar gyfer rhieni anabl. Gall addasu cyfarpar a ffyrdd newydd o wneud pethau fod yn hanfodol i'ch galluogi i gyfrannu go iawn at ofalu am eich babi neu'ch plentyn. Efallai y gwelwch nad yw cyfarpar gofal plant safonol yn bodloni'ch anghenion bob amser.
Mae'r rhan fwyaf o gyfarpar sydd ar gael ar gyfer pobl sydd â llai o allu i symud o gwmpas neu broblemau deheurwydd, ond mae cyfarpar ar gael ar gyfer rhieni dall a rhieni sydd â nam ar eu golwg hefyd.
Mae llawer o bethau i'w hystyried pan fyddwch yn dewis cyfarpar:
Mae rhieni anabl eraill yn ffynhonnell dda o gyngor a barn. Mae nifer o elusennau a mudiadau sy'n cefnogi rhieni anabl. Mae gan rai ohonynt fforymau ar-lein lle caiff cynnyrch ei adolygu a lle rhoddir awgrymiadau a chyngor.
Gall therapyddion galwedigaethol helpu gyda materion sy'n codi, megis rhoi bath, newid, bwydo, a chario babis/plant. Cewch wybod mwy am therapi galwedigaethol, asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol a thaliadau uniongyrchol a mwy yn adran 'iechyd a chymorth' yr adran 'pobl anabl'. Dyma un ffordd o gael y cyfarpar sydd ei angen arnoch.
Mae nifer o fudiadau a all roi cyngor defnyddiol am yr holl fathau o gyfarpar sydd ar gael ar gyfer pobl anabl. Mae'n hawdd dod o hyd i'r rhan fwyaf o gyfarpar, ond mae rhai gwneuthurwyr (a mudiadau a chyflenwyr) yn cynhyrchu cyfarpar yn arbennig i gwrdd ag anghenion priodol rhiant. Mae eraill yn gwerthu cyfarpar newydd ac ail-law. Mae cyflenwyr yn aml yn cynnwys siopau'r stryd fawr.
Dyma rai mathau o gyfarpar - a phethau i gadw golwg amdanynt - a all helpu gyda thasgau bob dydd:
Mae gwybodaeth ar wahân yn yr adran 'pobl anabl' sy'n delio â materion megis cyfarpar o gwmpas y cartref ac addasiadau mwy i'r cartref. Er enghraifft, mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn galluogi i bobl fyw'n fwy annibynnol yn eu cartrefi. Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i gyflawni'u rôl fel rhieni.