Mae'r canllaw hwn yn tynnu sylw at y newidiadau allweddol y gallech chi, fel person ifanc anabl yn eich arddegau, eu profi yn eich bywyd - gan gynnwys dewisiadau o ran addysg, iechyd a byw'n annibynnol.
Wrth i chi fynd yn hŷn, efallai y byddwch yn dechrau cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eich iechyd. Efallai y byddwch yn dewis mynd i weld eich meddyg neu bobl broffesiynol eraill ym maes iechyd ar eich pen eich hun, yn hytrach na mynd i'w gweld gyda'ch rhieni neu'ch gofalwyr. Rhaid i bob gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd gadw popeth a ddywedwch wrthynt yn gyfrinachol - ni chânt ddweud dim wrth eich rhieni nad ydych chi am iddynt ei wybod.
Pan fyddwch yn 16 i 18 oed, yn aml iawn bydd angen i chi symud o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau iechyd oedolion, er y gall hyn amrywio yn dibynnu ar ble'r ydych chi'n byw a pha wasanaethau y byddwch yn eu defnyddio. Gallwch barhau i weld eich meddyg teulu lleol, ond gallech ddechrau gweld tîm gwahanol yn eich ysbyty neu'ch adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Dylid ystyried eich anghenion iechyd chi wrth benderfynu pryd y dylech symud at wasanaethau oedolion, a dylai'r symudiad ei hun fod yn broses yn hytrach nag un digwyddiad. Hefyd, dylai'r ddau dîm gyfnewid y wybodaeth amdanoch yn fanwl. Ni ddylech gael eich rhyddhau gan y gwasanaethau iechyd plant nes bod eich gofal wedi cael ei drosglwyddo'n llwyddiannus i'r gwasanaethau iechyd oedolion.
Weithiau, bydd pediatregwyr (meddygon sy'n arbenigo mewn trin plant) yn parhau i weld eu cleifion ar ôl iddynt dyfu'n oedolion, yn enwedig os oes gan y claf gyflwr prin a bod y meddyg wedi meithrin gwybodaeth arbenigol ynghylch hynny.
Fel oedolyn ifanc, gall eich bywyd fod yn newid yn gyflym, ac efallai eich bod yn dymuno siarad yn gyfrinachol â rhywun am unrhyw faterion sy'n eich poeni. Mae ystod eang o wasanaethau iechyd meddwl ar gael i bobl ifanc, gan gynnwys cwnsela a seicotherapi - gwasanaethau y gallwch gael gafael arnynt drwy'ch meddyg teulu. Efallai y gallwch hefyd weld cwnsler yn eich ysgol neu'ch coleg. Cewch fwy o wybodaeth am wasanaethau cefnogi ym maes iechyd meddwl ar Directgov, neu gallech ymweld â gwefan Young Minds, yr elusen genedlaethol ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Ar ôl i chi gyrraedd 16 oed, mae gennych hawl i benderfynu lle'r ydych eisiau byw. Dyma rai dewisiadau:
I rai pobl, gall tai gwarchod fod yn gyflwyniad da i fyw'n annibynnol. Mae tai gwarchod yn galluogi pobl i fyw'n annibynnol - weithiau mewn fflatiau sy'n cael eu rhannu - gyda warden y gellir galw arnynt mewn argyfwng. Mae rhai cynlluniau tai gwarchod wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer pobl anabl a gall fod ganddynt gyfleusterau a staff arbenigol.
Os ydych chi'n dymuno symud oddi cartref, efallai y bydd angen i chi gael offer arbennig neu wneud addasiadau i'ch cartref newydd. Dylech gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol i asesu'ch anghenion o'r newydd, ac i egluro eich bod yn bwriadu gadael gartref. Bydd yr asesiad yn ystyried pa offer fydd eu hangen arnoch a pha addasiadau y bydd angen eu gwneud er mwyn i chi allu byw'n annibynnol. Bydd hefyd yn edrych a fydd angen unrhyw wasanaethau gofal arnoch yn lle'r gofal yr ydych, o bosibl, wedi bod yn ei dderbyn gartref, gan aelodau'r teulu, er enghraifft. Mae’n bosibl y bydd modd i chi gael Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl er mwyn helpu i dalu am y rhain.
Os ydych chi'n dymuno symud i lety preifat ar rent, ystyriwch a yw'r llety'n addas ar gyfer eich anghenion chi. Nid oes rhaid i landlordiaid preifat wneud addasiadau i'w heiddo ar gyfer tenantiaid anabl, ond efallai y caech chi wneud addasiadau, gan dalu amdanynt eich hun, gyda chaniatâd y landlord. Gallai hyn fod ar yr amod y byddwch yn tynnu neu'n dad-wneud y newidiadau pan ddaw eich tenantiaeth i ben.
Gallwch gael gwybod mwy am eich hawliau fel tenant gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Dewis arall yw gwneud cais am fflat neu dŷ gan y cyngor neu gan gymdeithas dai. Gelwir yr eiddo hyn weithiau'n dai cymdeithasol, ac maent ar gael i bobl sydd, er enghraifft, yn anabl, yn ddi-waith neu'n oedrannus.
I gael lle mewn tŷ cymdeithasol, rhaid i chi fod ar restr aros. Rhoddir blaenoriaeth i bobl sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal yn barod, felly mae gwneud cais yn lleol yn gwneud synnwyr. Y cam cyntaf y dylech ei gymryd yw trafod eich anghenion o ran tai gyda rhywun yn adran dai eich awdurdod lleol. Cewch fwy o wybodaeth am wneud cais am dŷ cyngor yn adran 'Cartref a chymuned' Directgov.
Os ydych chi'n penderfynu aros gartref, mae dal yn syniad da gofyn i'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol gynnal asesiad newydd o'ch anghenion wrth i chi dyfu'n oedolyn. Bydd rhai tasgau y mae eraill, o bosibl, wedi bod yn eu gwneud i chi pan oeddech yn blentyn, ond efallai y gallwch eu gwneud eich hun yn awr gyda'r math cywir o gefnogaeth ac offer.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael i chi o ran aros yn yr ysgol neu fynd ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch yn adran 'Addysg a dysgu' gyffredinol Directgov. Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor arbennig i fyfyrwyr anabl yn yr adran 'Addysg a hyfforddiant'.
Pan fyddwch wedi cyrraedd 16 oed ac wedi cwblhau blwyddyn 11 yn yr ysgol, un o'ch dewisiadau fydd gadael yr ysgol a dechrau gweithio. Tra'ch bod yn dal yn yr ysgol, gallwch gael cyngor am ddod o hyd i swydd gan gynghorydd gyrfa eich ysgol. Gallwch hefyd gael cymorth a chyngor ymarferol gyda dod o hyd i swydd neu ennill sgiliau newydd ar gyfer waith gan Gynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch canolfan waith leol.
Mae gan Gynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl brofiad o roi cymorth i bobl anabl ddod o hyd i swydd, a gallant roi cyngor i chi am gefnogaeth arbennig a'r cynlluniau gwaith sydd ar gael i bobl anabl. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Gynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl, cynlluniau gwaith a mathau eraill o gymorth yn 'Help i chwilio am waith'.
Nid yw'r ffaith bod gennych gyflwr meddygol penodol neu anabledd o anghenraid yn golygu na allwch chi ddysgu gyrru. Fodd bynnag, ceir rhai cyflyrau meddygol ac anableddau y mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau amdanynt. Gallwch gael mwy o wybodaeth am hyn yn 'Gyrru ac anabledd'.
Fel arfer, byddwch yn cael dysgu gyrru pan fyddwch yn 17 oed, ond os ydych chi'n derbyn elfen symudedd ar gyfradd uwch y Lwfans Byw i'r Anabl, cewch yrru pan fyddwch yn 16 oed. Dylai pob gyrrwr newydd gael gwersi gyrru proffesiynol. Fel gyrrwr anabl, efallai y byddai'n well gennych gael gwersi gan hyfforddwr sydd â phrofiad o ddysgu pobl anabl.
Budd-dal i blant ac oedolion sydd angen cymorth â gofal personol neu wrth fynd o le i le yw'r Lwfans Byw i'r Anabl. Os ydych chi dan 16 oed, bydd eich Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei dalu i'ch rhiant neu'ch gofalwr. Ar ôl i chi gyrraedd 16 oed, gellir ei dalu'n uniongyrchol i chi, neu i rywun a all reoli'ch arian ar eich rhan os oes angen.
Mae'r rheolau ynghylch pwy all gael Lwfans Byw i'r Anabl yn newid pan fyddwch yn 16 oed. Pan fyddwch yn 16 oed, ni fydd yn rhaid i chi mwyach ddangos bod angen mwy o ofal neu oruchwyliaeth arnoch na pherson arall o'r un oed a chi. Gallai'r newid hwn olygu bod gennych hawl i gael cyfradd uwch o Lwfans Byw i'r Anabl nag o'r blaen, neu y cewch dderbyn y Lwfans am y tro cyntaf. Am y rheswm hwn, os oes gennych chi hawl i gael Lwfans Byw i'r Anabl cyn i chi gyrraedd 16 oed, mae'n debygol yr edrychir ar eich cais eto o gwmpas yr adeg y byddwch yn cael eich pen-blwydd yn 16 oed. Os nad oedd gennych hawl i dderbyn y Lwfans Byw i'r Anabl cyn i chi fod yn 16 oed, dylech wneud cais newydd ar ôl eich pen-blwydd yn 16 oed os ydych chi'n meddwl y gallai bod gennych hawl i gael y Lwfans fel oedolyn.
Cewch dderbyn y Lwfans Byw i'r Anabl hyd yn oed os oes gennych swydd amser llawn. Ni fydd eich Lwfans Byw i'r Anabl yn effeithio ar yr un budd-dal y mae eich rhieni'n eu derbyn.
Ar ôl i chi gyrraedd 16 oed, efallai y byddwch yn dod yn gymwys i dderbyn Budd-dal Analluogrwydd os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd. Chewch chi mohono fel arfer os ydych chi dan 19 oed ac mewn addysg amser llawn.
Os ydych chi'n byw gyda'ch rhieni, gallai'ch hawl i gael Budd-dal Analluogrwydd effeithio ar eu budd-daliadau nhw os ydynt yn cael unrhyw un o'r canlynol:
Os oes rhywun yn hawlio Lwfans Gofalwr am ofalu amdanoch chi, ni fydd hwn yn cael ei effeithio os byddwch yn hawlio unrhyw fudd-dal eich hun, cyn belled â bod eich gofalwr yn dal i fodloni'r amodau dros dderbyn y Lwfans Gofalwr.
Taliadau gan y cyngor lleol yw taliadau uniongyrchol. Mae'r rhain ar gyfer pobl yr aseswyd bod angen cymorth y gwasanaethau cymdeithasol arnynt, a'u bod yn dymuno trefnu eu gwasanaethau gofal a chymorth eu hunain yn hytrach na'u derbyn yn uniongyrchol gan y cyngor lleol.
Os ydych chi dan 16 oed, bydd eich rhieni neu'ch gofalwr/gofalwyr yn cadw trefn ar eich taliadau uniongyrchol ar eich rhan. Ar ôl i chi gyrraedd 16 oed, mae gennych hawl i reoli'ch taliadau uniongyrchol eich hun. Golyga hyn y gallwch ddewis pa wasanaethau yr ydych yn dymuno'u defnyddio a phwy sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, cyn belled â bod y cyngor lleol yn cytuno bod y gwasanaethau yr ydych wedi eu dewis yn diwallu'ch anghenion asesedig. Gallwch hefyd ddewis defnyddio'ch taliadau uniongyrchol i gyflogi gofalwr proffesiynol, os oes angen.
Os nad ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol ond yn teimlo bod arnoch angen gwasanaethau gofal a chefnogi, dylech gysylltu â'r adran gwasanaethau cymdeithasol yn eich cyngor lleol a gofyn iddynt drefnu asesiad.