Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfansau Myfyrwyr Anabl - faint allwch chi ei gael

Mae faint o help gewch chi drwy Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion personol chi - hyd at uchafswm y lwfans. Mae terfynau amrywiol i wahanol lwfansau.

Cyfrifo Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Nod Lwfansau Myfyrwyr Anabl yw helpu'r rhai sydd ag anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol i astudio ar yr un sail â myfyrwyr eraill. Felly mae faint o arian gewch chi yn dibynnu ar eich anghenion fel unigolyn - hyd at uchafswm y lwfans.

Pan fyddwch chi'n gwneud cais, bydd eich awdurdod lleol yn gofyn am gael asesiad o'ch anghenion er mwyn penderfynu pa gymorth yn union y bydd arnoch ei angen. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gynnal gan rywun sydd â phrofiad arbenigol mewn canolfan asesu annibynnol, neu mewn canolfan o fewn eich coleg neu'ch prifysgol. Efallai y gellir talu am yr asesiad anghenion drwy'ch Lwfansau Myfyrwyr Anabl.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, gall 'dwyster' eich cwrs - faint o amser yr ydych chi'n ei dreulio wrth astudio, o'i gymharu â myfyriwr amser llawn - hefyd effeithio ar faint o arian gewch chi.

Ni fydd incwm y cartref yn cael ei ystyried wrth gyfrifo faint o Lwfans Myfyrwyr Anabl y byddwch yn gymwys i'w dderbyn. Caiff ei dalu ar ben unrhyw gymorth yr ydych chi'n ei gael drwy'r pecyn cyllid myfyrwyr arferol - ac nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.

Lwfansau ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser

Mae'r tablau isod yn dangos uchafswm y lwfansau ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser (gan gynnwys myfyrwyr y Brifysgol Agored a rhai eraill sy'n dysgu o bell).

Er mwyn rhoi cymorth pan fo lefel yr anghenion yn uchel y telir uchafswm y lwfans, felly bydd y mwyafrif yn cael llai na hynny.

Ar ben y lwfansau a restrir yn y tabl hwn, gallwch wneud cais am 'arian rhesymol i'w wario' ar gostau teithio ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Yr uchafswm ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser: 2008/2009  

 Math o lwfans Myfyrwyr amser llawn  Myfyrwyr rhan-amser
 Cyfarpar arbenigol  £5,030 am y cwrs i gyd £5,030 am y cwrs i gyd
Cynorthwy-ydd anfeddygol £20,000 y flwyddyn  £15,000 y flwyddyn (yn dibynnu ar ddwyster y cwrs)
Lwfansau Myfyrwyr Anabl Cyffredinol £1,680 y flwyddyn £1,260 y flwyddyn (yn dibynnu ar ddwyster y cwrs)


Yr uchafswm ar gyfer myfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan-amser: 2007/2008 

 Math o lwfans  Myfyrwyr amser llawn  Myfyrwyr rhan-amser
Cyfarpar arbenigol £4,905 am y cwrs i gyd £4,905 am y cwrs i gyd
Cynorthwy-ydd anfeddygol £12,420 y flwyddyn £9,315 y flwyddyn (yn dibynnu ar ddwyster y cwrs)
 Lwfansau Myfyrwyr Anabl Cyffredinol  £1,640 a year £1,230 y flwyddyn (yn dibynnu ar ddwyster y cwrs)

Lwfansau ar gyfer myfyrwyr ôl-radd

Gall myfyrwyr ôl-radd (gan gynnwys myfyrwyr y Brifysgol Agored a myfyrwyr eraill sy'n astudio o bell) wneud cais am un lwfans i dalu am yr holl gostau. Uchafswm y lwfans ar gyfer 2008/2009 yw £10,000 - ar gyfer 2007/2008, £5,915 yw'r ffigur.

Sut y cânt eu talu

Bydd Student Finance Direct un ai'n talu'r arian i'ch cyfrif, neu'n uniongyrchol i ddarparwr y gwasanaethau - er enghraifft eich prifysgol, eich coleg neu'ch darparwr offer.

Yr effaith ar fathau eraill o gymorth ariannol

Nid yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn cael eu cyfrif fel incwm wrth gyfrifo a ydych chi'n gymwys i dderbyn budd-daliadau neu gredydau treth.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os yw'ch anabledd yn dod yn fwy difrifol yn ystod eich cwrs, gallwch wneud cais i gael asesiad anghenion arall. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'r Brifysgol Agored er mwyn trefnu hyn.

Byddwch yn dal yn gymwys i dderbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl os byddwch chi'n trosglwyddo'ch astudiaethau i gwrs arall. Ond os bydd angen offer gwahanol arnoch a'ch bod eisoes wedi defnyddio'ch lwfans offer, ni fydd yn bosib i chi gael mwy.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU