Mae'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn darparu cymorth ariannol ychwanegol os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol megis dyslecsia. Cânt eu talu ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol ac nid oes yn rhaid eu had-dalu.
Grantiau yw'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl sy'n helpu i dalu'r costau astudio ychwanegol sy'n wynebu myfyrwyr fel canlyniad uniongyrchol o anabledd neu anhawster dysgu penodol. Maent wedi eu cynllunio i helpu myfyrwyr anabl i astudio'n gyfartal â myfyrwyr eraill.
Gall myfyrwyr amser llawn, rhan-amser a myfyrwyr ôl-radd gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl.
Ni fydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes rhaid i chi dalu hwn yn ôl. Caiff Lwfansau Myfyrwyr Anabl eu talu ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol.
Gellir Lwfansau Myfyrwyr Anabl helpu gydag:
Gallwch wneud cais os ydych yn astudio:
Gweld os ydych yn gymwys ar gyfer cyllid myfyriwr
I wneud cais ar gymorth ariannol drwy Lwfansau Myfyrwyr Anabl, mae’n rhaid i chi a’ch cwrs fod yn gymwys. Mae’n werth i chi wirio hyn cyn gwneud cais. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran addysg a dysgu o’r wefan hon.
Cael prawf o’ch anabledd neu anhawsterau dysgu penodol
I wneud cais, bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth o’ch anabledd i’ch awdurdod lleol (neu’r Brifysgol Agored).
Os ydych ag anabledd corfforol, neu â chyflwr iechyd-meddyliol, bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth feddygol o hyn – fel llythyr gan rhywun proffesiynol meddygol priodol.
Os oes gennych anhawster dysgu penodol fel dyslecsia, mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth mewn ffurf ‘asesiad diagnostig’ gan seicolegydd neu athro/athrawes gymwysedig arbenigol addas. Os ydych wedi cael asesiad diagnostig yn y gorffennol, mae’n bosib bydd angen iddo gael ei ddiweddaru.
Ni all eich awdurdod lleol cyrraedd y gost o unrhyw brofion i sefydlu eich cymhwyster am Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Os oes angen prawf ond nid ydych yn gallu fforddio talu amdano, mae’n bosib y gallwch gael cymorth gyda’r gost drwy’r Gronfa Mynediad i Ddysgu.
Ni fyddwch yn gymwys am y Lwfansau Myfyrwyr Anabl os ydych yn derbyn bwrsari gan y GIG. Mae bwrsarïau’n debyg i rantiau ac, fel arfer, bydd y rhain yn gysylltiedig â phroffesiwn neu â chymhwyster penodol.
Ni fyddwch hefyd yn gymwys am Lwfansau Myfyrwyr Anabl o’ch awdurdod lleol os ydych yn fyfyriwr ôl-radd ac yn derbyn:
Dylech gysylltu â darparwr eich bwrsari neu grant am gyngor am unrhyw gefnogaeth ychwanegol mae’n bosib y byddwch a hawli iddo oherwydd anabledd.
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol, ond mae uchafsymiau ar gyfer y lwfansau gwahanol.
Dilynwch y ddolen isod am fanylion, gan gynnwys beth ydy’r lwfansau mwyaf.
Dilynwch y ddolen isod am fanylion y broses o wneud cais ar gyfer myfyrwyr amser llawn, rhan-amser a myfyrwyr ôl-radd. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth ar bwy i gysylltu gyda os caiff eich cais ei droi i lawr ac yr ydych am apelio.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Lwfansau Myfyrwyr Anabl o'r llyfryn, 'Bridging the Gap'. Gallwch lwytho copi o'r safle hwn, neu ofyn i'ch awdurdod lleol anfon un atoch chi.
Dilynwch y ddolen isod am wybodaeth ar fathau eraill o gymorth i fyfyrwyr anabl.
Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn cael eu talu ar ben y pecyn safonol o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr.
Os ydych yn gwneud cwrs addysg uwch, gallwch gael gwybodaeth ar fenthyciadau myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau gan ‘Cyllid myfyrwyr: faint allech chi ei gael’ neu, os wnaeth eich cwrs ddechrau cyn 2006, ‘Cyllid myfyrwyr: wedi cychwyn cyn Medi 2006?’.
Os ydych yn fyfyriwr ôl-radd, dilynwch y ddolen i ‘Ariannu eich cwrs ôl-radd’.