Cael gwybod sut i wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl a beth i'w wneud os caiff eich cais ei wrthod.
Mae dwy ffordd wahanol o wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Bydd pa bynnag un a gewch yn dibynnu p'un a ydych:
Mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau Gynghorydd Anabledd. Gallant eich helpu gyda'ch cais a rhoi cyngor i chi ar ffynonellau ariannol eraill.
Os ydych yn fyfyriwr addysg uwch amser llawn, dylech wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl drwy lenwi'r ffurflen gais DSA1.
Anfonir copi o'r ffurflen atoch, a'r llyfryn canllawiau a ddaw gyda hi, os byddwch yn rhoi tic yn y blwch perthnasol ar eich prif gais am gyllid myfyrwyr - gallwch hefyd lwytho copïau, neu ofyn i'ch awdurdod lleol eu hanfon drwy'r post.
Gofynnwch i'ch awdurdod lleol os oes angen copïau a'r llyfryn canllawiau arnoch mewn fformat gwahanol - maent ar gael mewn fersiynau print bras, Braille a sain.
Pan fyddwch yn llenwi'ch prif ffurflen gais am gyllid myfyriwr ar-lein neu ar bapur, ticiwch y blwch 'Lwfansau Myfyrwyr Anabl'.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich awdurdod lleol yna'n anfon ffurflen gais DSA1 i chi er mwyn i chi ei llenwi a'i dychwelyd, ynghyd â'r llyfryn gwybodaeth 'Bridging the Gap'.
Mae'n bosib y bydd rhai awdurdodau lleol yn delio â cheisiadau am Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn wahanol - er enghraifft, mae'n bosib y byddant yn anfon llythyr o gadarnhad atoch i chi ei lofnodi.
Llwytho’r ffurflen gais a'r llyfryn canllawiau
Dilynwch y dolenni isod i lwytho’r ffurflen DSA1, y nodiadau cyfarwyddo a'r llyfryn gwybodaeth 'Bridging the Gap'.
Cael ffurflen cais trwy’r post
Gallwch gysylltu â’ch awdurdod lleol a gofyn iddynt ddanfon ffurflen cais i chi.
Mae pob ffurflen gais a llyfryn ar gael mewn gwahanol fformatau, gan gynnwys print bras, fersiynau Braille a sain. Gallwch archebu'r rhain o Swyddfa Cymorth i Gwsmeriaid Student Finance.
Rhif Ffôn: 08456 077 577
Os ydych yn astudio rhan-amser neu'n gwneud cwrs ôl-radd, bydd angen i chi fynd â'r ffurflen DSA1 gyda chi i'ch coleg neu brifysgol, gofyn iddynt ei llofnodi ac yna'i hanfon at y cyfeiriad sydd wedi'i nodi ar y ffurflen.
Nid oes angen i chi gael eich prifysgol neu goleg i lofnodi eich ffurflen DSA1 os ydych yn fyfyriwr addysg uwch rhan-amser a'u bod eisoes wedi llenwi ffurflen PTG1 ar eich cyfer. Anfonwch hi'n syth at y cyfeiriad a nodir ar y ffurflen unwaith y byddwch wedi'i chwblhau.
Dylech wneud cais yn uniongyrchol i swyddfa Lwfansau Myfyrwyr Anabl y Brifysgol Agored. Os dywedwch wrth y Brifysgol Agored wrth i chi wneud cais bod gennych anabledd, bydd y swyddfa'n anfon y ffurflen gais atoch yn awtomatig.
Os bydd eich awdurdod lleol yn gwrthod eich cais, gallwch ofyn iddynt am ragor o wybodaeth pam eu bod wedi penderfynu gwneud hynny.
Os byddwch yn anghytuno â'r penderfyniad, gallwch ofyn iddynt adolygu eich achos. Os caiff y penderfyniad ei adolygu a'ch bod yn dal i gredu bod y penderfyniad yn anghywir, gofynnwch i'ch cyngor lleol sut y gallwch apelio yn ei erbyn.