Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Myfyrwyr anabl - cymorth ariannol ychwanegol

Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu, mae'n bosib eich bod yn gymwys i hawlio cymorth ariannol ychwanegol fel myfyriwr. Bydd hwn yn cael ei dalu ar ben unrhyw gyllid myfyrwyr sylfaenol y byddwch yn ei dderbyn.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr anabl

Mae ffynonellau am gymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr anabl yn cynnwys:

  • Lwfansau Myfyrwyr Anabl
  • Y Gronfa Mynediad at Ddysgu
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Budd-dal Analluogrwydd

Telir y rhain ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol.

Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Grantiau yw'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl sy'n helpu i dalu'r costau astudio ychwanegol sy'n wynebu myfyrwyr fel canlyniad uniongyrchol o anabledd neu anhawster dysgu penodol. Maent wedi eu cynllunio i helpu myfyrwyr anabl i astudio'n gyfartal â myfyrwyr eraill.

Telir lwfansau ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol. Ni fydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes yn rhaid ad-dalu'r lwfansau hyn.

Am fanylion ar Lwfansau Myfyrwyr Anabl, defnyddiwch y ddolen canlynol os gwelwch yn dda.

Y Gronfa Mynediad at Ddysgu

Mae'n bosib hefyd y gallwch hawlio cymorth ariannol ychwanegol drwy'r Gronfa Mynediad at Ddysgu. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen i'r daflen ffeithiau isod.

Lwfans Byw i'r Anabl

Gellir talu'r Lwfans Byw i'r Anabl dros ac uwchben Lwfansau Myfyrwyr Anabl neu unrhyw grant neu fenthyciad arall. Gall y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl roi mwy o wybodaeth i chi am hyn.

Budd-dal Analluogrwydd

Budd-dal a delir i bobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd yw Budd-dâl Analluogrwydd. Os ydych yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd eisoes, mae'n bosib i chi barhau ei dderbyn fel myfyriwr. Ni chaiff eich Budd-dal Analluogrwydd ei leihau os byddwch yn derbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl neu unrhyw fath arall o grant neu fenthyciad.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch hawlio’r budd-dal hwn wrth astudio o Skill: Y Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau.

Mathau eraill o gyllid myfyrwyr

Telir cymorth ariannol sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr anabl a budd-daliadau’r wladwriaeth ar ben y pecyn ariannol myfyrwyr sylfaenol.

Os ydych yn fyfyriwr amser-llawn addysg uwch, gweler ‘Cyllid myfyrwyr: beth allwch gael’ am wybodaeth ar fenthyciadau myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau – neu, os wnaeth eich cwrs ddechrau cyn 2006, gweler ‘Cyllid myfyrwyr: dechrau cyn 2006?’

Dylai myfyrwyr rhan-amser gweld ‘Cyllid myfyrwyr: myfyrwyr rhan-amser’ a cheir gwybodaeth am fyfyrwyr ôl-radd yn ‘Ariannu eich cwrs ôl-radd’.

Dilynnwch un o’r dolenni isod i gael gwybod y mathau eraill o gyllid myfyrwyr gallwch gael – yn cynnwys gwybodaeth ar fenthyciadau myfyriwr, grantiau a bwrsarïau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU