Eich awdurdod addysg lleol (adran addysg eich cyngor lleol) sy'n penderfynu a oes gan eich plentyn hawl i gludiant am ddim yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Mae'r un rheolau'n berthnasol pa un a oes gan eich plentyn anabledd neu beidio.
Dylai eich awdurdod addysg lleol feddu ar ddatganiad ysgrifenedig clir o'u polisi cludiant i'r ysgol.
Dywed y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd na ddylai awdurdodau lleol ac ysgolion drin plant anabl yn 'llai ffafriol' ac y dylent wneud 'addasiadau rhesymol' i wneud yn siwr nad oes unrhyw gamwahaniaethu'n digwydd yn eu herbyn. Mae hyn yn berthnasol i gludiant ysgol hefyd.
Mae cludiant i'r ysgol am ddim i bob plentyn
Dywed y gyfraith mai dwy filltir yw'r pellter hiraf y dylai plentyn gerdded ar gyfer plant dan wyth oed a thair milltir ar gyfer plant dros 8 oed.
Os yw eich plentyn yn anabl, mae'r un rheolau'n berthnasol - fodd bynnag, gall AALlau benderfynu darparu cludiant ar sail achosion unigol. Bydd eich AALl yn asesu anghenion eich plentyn wrth wneud penderfyniad.
Wrth benderfynu ar sut i gludo'ch plentyn, dylai eich AALl ystyried iechyd a/neu anabledd eich plentyn a'i oed.
Mae gan rai AALlau wahanol bolisïau cludiant gyda golwg ar blant sy'n mynd i ysgolion arbennig.
Efallai y cewch gymorth gyda'ch costau chi eich hun ar gyfer mynd â'ch plentyn i'r ysgol. Gall eich AALl ddweud wrthych os yw hyn yn bosibl.
Mae cludiant ysgol yn gallu cael ei redeg gan AALlau neu gwmnïau preifat. Os cynigir cludiant ysgol i'ch plentyn, dylai'r cerbyd fod ag offer perthnasol ar gyfer anghenion eich plentyn - er enghraifft ramp a lifft.
Mae rhai AALlau yn darparu cludiant yn ystod y dydd ar gyfer diwallu anghenion plant sy'n treulio rhan yn unig o'r diwrnod yn yr ysgol. Ni ddylai eich plentyn gael ei rwystro rhag cyfrannu at weithgareddau yn yr ysgol megis clybiau ar ôl yr ysgol, ac felly dylid cael trefniadau ar gyfer casglu'r plentyn yn hwyrach os oes raid.
Gall eich AALl ddweud wrthych os ydynt yn cynnig y mathau hyn o wasanaethau.
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau lleol yn darparu tywyswyr ar gludiant ysgol os oes angen un ar eich plentyn. Dylai'r tywysydd dderbyn hyfforddiant ar anghenion disgyblion anabl
Gallwch lenwi eich manylion am ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn yn eich tywys wedyn i wefan eich awdurdod lleol ble gallwch ddod o hyd i fwy a/neu wneud cais ar-lein.
Os ydych yn gofalu am blentyn anabl, cael gwybod mwy ynghylch cymorth ymarferol ac ariannol i ofalwyr - sy'n cynnwys asesiadau gofalwyr a Lwfans Gofalwr - yn yr adran 'gofalu am rywun' o Directgov.