Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod o hyd i gyflogwyr sydd ag agwedd gadarnhaol at anabledd

Mae dulliau hawdd o ddod o hyd i'r cyflogwyr hynny sy'n annog pobl anabl yn gadarnhaol i wneud cais am eu swyddi neu leoliadau profiad gwaith.

Er nad oes gan gyflogwyr yr hawl i gamwahaniaethu yn eich erbyn yn unol â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae rhai wedi dangos eu bod yn gadarnhaol iawn o ran cyflogi pobl anabl.

Gall y pwyntiau isod eich helpu i nodi'r cyflogwyr hynny.

Y symbol anabledd 'dau dic'

Mae rhai cyflogwyr yn dangos yn glir eu hymrwymiad i gyflogi pobl anabl trwy osod symbol anabledd 'dau dic' y Ganolfan Byd Gwaith ar eu hysbysebion swyddi.

Golyga hyn bod y cyflogwr wedi gwneud rhai ymrwymiadau penodol yn gysylltiedig â chyflogi pobl anabl. Golyga'r symbol hefyd y byddwch yn siŵr o gael cyfweliad os ydych yn bodloni meini prawf sylfaenol y swydd.

Polisïau cyfle cyfartal

Mae gan lawer o gyflogwyr bolisïau cyfle cyfartal. Os felly, bydd y cyflogwr yn ymwybodol o’r darpariaethau o fewn y polisïau hynny o ran recriwtio a chyflogi heb ragfarn, a dylai weithredu ar sail hynny. Efallai y byddwch yn teimlo'n fwy cyfforddus yn datgelu anabledd wrth gwmni sydd wedi datgan bod ganddo bolisïau o’r fath ar waith.

Gall cyflogwr gynnwys datganiad mewn hysbyseb swydd sy'n annog pobl anabl i wneud cais ac sy'n cadarnhau bod y cyflogwr yn glir am eu cyfrifoldebau cyfreithiol dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Hysbysebion swydd a ffurflenni cais

Chwiliwch am y canlynol:

  • ydy’r symbol ‘dau dic’ wedi’u harddangos ar hysbysebion a ffurflenni cais?
  • ydy'r cyflogwr wedi hysbysebu mewn nifer o wahanol fformatau, er enghraifft, print bras neu dâp sain?
  • lle gwelsoch chi'r hysbyseb swydd? Mae rhai cyflogwyr yn fwriadol yn rhoi hysbysebion mewn mannau lle mae pobl anabl yn fwy tebygol o'u gweld, megis gydag Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn un o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith neu mewn cyhoeddiadau arbenigol i bobl anabl
  • ydy'r ffurflenni cais ar gael mewn fformatau gwahanol?
  • a oes trefniadau ar gael i alluogi ymgeiswyr i gyflwyno'r ceisiadau yn y fformat sydd fwyaf addas iddynt hwy?
  • a ofynnir i chi ar y ffurflen gais ddweud a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yn y cyfweliad?
  • a oes adran yn y ffurflen gais sy'n nodi'n fyr iawn dyletswydd y cyflogwr i wneud addasiadau rhesymol ac yn gofyn i chi nodi unrhyw addasiadau y byddai eu hangen arnoch o bosibl oherwydd anabledd neu nam?

Os ydych yn pryderu am y mater olaf hwn ac am gael help, siaradwch â'ch Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl. Gall eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau o esbonio eich addasrwydd i'r swydd neu, petai hynny'n ddefnyddiol i chi, gall gysylltu â'r cyflogwr ar eich rhan.

Rhoi gwybod am anabledd

Nid oes yn rhaid i chi wirfoddoli i ddatgelu gwybodaeth am eich anabledd, ond gallai fod yn syniad da gwneud hynny – yn enwedig os yw’r cwmni wedi nodi ei fod yn gadarnhaol tuag at gyflogi pobl anabl.

Oni fyddwch yn rhoi gwybod am anabledd, nid oes yn rhaid i gyflogwr wneud addasiadau rhesymol i brosesau recriwtio a dethol gan na fyddai'n rhesymol iddynt fod yn ymwybodol bod gennych anabledd.

Lleoliadau profiad gwaith

Gall lleoliad profiad gwaith fod yn ffordd wych o roi cynnig ar yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn cynnwys y bobl hynny sydd ar brofiad gwaith ymarferol a gyflawnir fel rhan o’u hyfforddiant galwedigaethol.

Mae Skill: y Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau wedi cynhyrchu ‘Into Work Experience’, canllaw i bobl anabl am £2.50. Mae’n cynnwys cyngor ar ddod o hyd i leoliad gwaith a dechrau gweithio yno, mae’n egluro eich hawliau cyfreithiol a'ch proffiliau gan roi manylion am brofiadau pobl anabl. Ceir adran ar gyfer cyflogwyr hefyd.

Gallwch brynu copi o’r canllaw yn y siop lyfrau ar-lein ar wefan Skill.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU