Y symbol anabledd
Wrth wneud cais am swyddi, chwiliwch am gyflogwyr sy'n defnyddio'r symbol anabledd 'dau dic'. Mae'n dangos bod ganddynt agwedd gadarnhaol at gyflogi pobl anabl ac y byddant yn awyddus i wybod am eich galluoedd.
Cynrychiolir y symbol anabledd gan 'ddau dic' a'r geiriau 'yn gadarn o blaid pobl anabl'. Fe welwch y symbol wedi'i arddangos ar hysbysebion swydd a ffurflenni cais.
Beth mae'r symbol yn ei olygu
Cydnabyddiaeth yw'r symbol a roddir gan y Ganolfan Byd Gwaith i gyflogwyr sydd wedi cytuno i wneud rhai ymrwymiadau cadarnhaol penodol gyda golwg ar gyflogi, cadw a hyfforddi pobl anabl a datblygiad eu gyrfa.
Dyma'r ymrwymiadau:
- cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag a'u hystyried ar eu galluoedd
- sicrhau bod cyfrwng ar gael i drafod, unrhyw bryd, ond o leiaf unwaith y flwyddyn, gyda gweithwyr anabl, beth y gall y ddau barti ei wneud i sicrhau bod gweithwyr anabl yn gallu datblygu a defnyddio'u galluoedd
- ymdrechu i'r eithaf pan fydd gweithwyr yn dod yn anabl i sicrhau eu bod yn aros yn y gwaith
- gweithredu i sicrhau bod pob gweithiwr yn datblygu'r lefel briodol o ymwybyddiaeth o anabledd sy'n angenrheidiol i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn gweithio
- adolygu'r pum ymrwymiad yn flynyddol a'r hyn sydd wedi'i gyflawni, cynllunio ffyrdd o wella arnynt a rhoi gwybod i'r gweithwyr a'r Ganolfan Byd Gwaith am y cynnydd sy'n cael ei wneud a chynlluniau'r dyfodol
Gofynnwch i'r Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn swyddfa'ch Canolfan Byd Gwaith am ragor o wybodaeth am ba gyflogwyr yn eich ardal sy'n defnyddio'r symbol anabledd.