Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymgynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda chyflogaeth oherwydd anabledd, gall eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol eich rhoi mewn cysylltiad ag un o'u Cynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl.

Gall Cynghorydd Cyflogaeth i'r Anabl:

  • roi cefnogaeth ichi os ydych yn cael trafferth dod o hyd i waith oherwydd eich anabledd
  • rhoi gwybod ichi am gyfleoedd swydd addas
  • eich cynghori am y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael ar gyfer pobl anabl
  • darparu cyngor penodol os ydych wedi dod yn anabl yn ddiweddar, neu os yw eich anabledd neu eich salwch wedi dirywio
  • defnyddio arbenigedd proffesiynol seicolegwyr galwedigaethol sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phobl anabl

Gwasanaethau a ddarperir gan Gynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl

Gall Cynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl gynnig y canlynol ichi:

  • asesiad cyflogaeth i ganfod pa waith neu hyfforddiant sydd fwyaf addas i chi
  • eich cyfeirio, lle y bo'n briodol, at y rhaglen Paratoi at Waith, rhaglen wedi'i theilwra'n arbennig i helpu rhai pobl anabl
  • eich cyfeirio at raglen waith ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y Cynllun Cyflwyno Swydd, WORKSTEP neu Fynediad at Waith
  • eich cyfeirio, os oes angen, at seicolegydd galwedigaethol ar gyfer asesiad cyflogaeth manylach er mwyn canfod y gwaith neu'r hyfforddiant gorau i chi
  • gwasanaeth cyfeirio a chyfatebu swyddi - gall y Cynghorydd roi gwybod i chi am swyddi sy'n addas ar gyfer eich profiad a'ch sgiliau
  • gwybodaeth am gyflogwyr yn eich ardal sydd wedi mabwysiadu'r symbol anabledd 'dau dic'

Asesiadau cyflogaeth

Gall asesiad cyflogaeth eich helpu i nodi eich galluoedd a'ch cryfderau. Ar ei ddiwedd, byddwch chi a'r Cynghorydd wedi llunio cynllun gweithredu o gamau y gallwch eu cymryd i gyflawni eich nodau o ran cyflogaeth.

Beth sy'n digwydd yn yr asesiad?

Cynhelir yr asesiad cyflogaeth fel arfer yn y Ganolfan Gwaith neu'r Ganolfan Byd Gwaith leol. Byddwch yn cael cyfweliad gyda'ch Cynghorydd, a fydd yn gyfle i'r ddau ohonoch:

  • siarad am eich sgiliau a'ch galluoedd
  • trafod unrhyw brofiad gwaith blaenorol sydd gennych o bosibl
  • cytuno ar y math mwyaf addas o swydd ar eich cyfer chi

Fel rhan o'r asesiad, efallai y gofynnir ichi wneud rhai tasgau ymarferol a gwaith ysgrifenedig. Bydd y tasgau hyn yn debyg i dasgau cyffredin a wneir mewn gwahanol fathau o waith.

Bydd yr asesiad yn para hanner diwrnod neu fwy, yn dibynnu ar eich anghenion unigol chi. Bydd y Cynghorydd yn trafod hyd eich asesiad gyda chi ymlaen llaw.

Ar ôl yr asesiad

Byddwch chi a'ch Cynghorydd yn trafod eich asesiad ac yn cytuno ar gynllun gweithredu i'ch helpu chi gyflawni eich nodau o ran swydd. Gall eich cynllun gweithredu gynnwys hyfforddiant neu gymryd rhan yn y rhaglen 'Paratoi at Waith'.

Nid yw asesiad cyflogaeth yn effeithio ar eich budd-daliadau. Gallwch hawlio costau teithio am fynychu asesiad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU