Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Help i chwilio am waith

Gallwch gael help i ennill sgiliau newydd, i ddod o hyd i waith neu i aros mewn gwaith gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Canolfannau Gwaith, gwasanaethau gyrfaoedd a mudiadau gwirfoddol.

Swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith a Chanolfannau Gwaith

Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cenedlaethol o Ganolfannau Gwaith. Mae'r rhain yn rhoi cyngor gofalus ar bob cam wrth i chi chwilio am swydd ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa fudd-daliadau neu lwfansau y gallwch eu hawlio. Gallant eich cefnogi hefyd os ydych yn pryderu am effaith eich anabledd ar eich swydd bresennol.

Gall eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu eich Canolfan Waith leol eich helpu a'ch cefnogi beth bynnag yw eich sefyllfa - hyn yn oed os nad oes gennych unrhyw brofiad gwaith neu heb weithio ers amser maith.

Llyfryn a DVD 'We can help' gan y Ganolfan Byd Gwaith

Efallai y gallwch chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, gael budd o lyfryn 70 tudalen a/neu DVD am wasanaethau anabledd y Ganolfan Byd Gwaith. Mae'r ddau'n cynnwys gwybodaeth am y cyngor a'r cymorth ymarferol y gellir ei gynnig i chi, gan ddefnyddio enghreifftiau 'bywyd go iawn' o bobl sydd wedi manteisio ar wasanaethau anabledd y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae'r llyfryn a'r DVD ar gael mewn nifer o ieithoedd cymunedol ac yn Iaith Arwyddion Prydain (DVD) a Braille a thâp sain (y llyfryn).

Cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith leol neu'r Ganolfan Waith i gael copi am ddim.

Cynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl

Efallai y byddwch chi a'ch ymgynghorydd o'r Ganolfan Byd Gwaith yn penderfynu y byddai rhagor o gyngor a help arbenigol yn syniad da. Gallant wedyn drefnu i chi gael cyfweliad gydag Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl.

Byddant yn cael gwybod am eich galluoedd a'r math o waith a fyddai'n addas i chi, ac wedyn yn llunio cynllun gweithredu gyda chi er mwyn eich helpu i gael swydd neu i fynd ar gwrs hyfforddi.

Cynghorwyr ar gyfer y bobl sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd

Mae gan y rhan fwyaf o swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith a chanolfannau gwaith Gynghorwyr Personol Arbennig sy'n ymdrin â Budd-daliadau Analluogrwydd ac yn rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd. Nid ydynt yn darparu'r gwasanaeth hwn ar gyfer budd-daliadau anabledd eraill - megis Lwfans Byw i'r Anabl.

Mae'r rhaglen 'Llwybr at Waith' wedi'i datblygu i ddarparu mwy o gefnogaeth er mwyn helpu pobl sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd i ddychwelyd i weithio. Dim ond mewn rhai ardaloedd yn y DU y mae'r rhaglen ar gael ar hyn o bryd. Mae Cynghorwyr Personol Budd-dal Analluogrwydd yn rhan o'r rhaglen 'Llwybr at Waith ' a hefyd yn gyfrifol am roi cyngor a chefnogaeth arbenigol i bobl.

Cynlluniau a rhaglenni gwaith

Os oes gennych chi anabledd sy'n effeithio ar y math o waith y gallwch ei wneud, byddwch yn gymwys i ymuno â rhai o'r llu rhaglenni sydd ar gael i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser, heb orfod aros am y cyfnod cymhwyso.

Derbyn budd-daliadau anabledd a salwch tra'n gweithio

Lwfans Byw i’r Anabl

Mae Lwfans Byw i'r Anabl yn fudd-dal y gellir ei dalu os ydych mewn neu allan o waith neu mewn hyfforddiant, cyhyd ag y bo eich anghenion gofal neu eich anghenion symudedd yn cwrdd â’r amodau hawlio. Os ydych yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl ac ar fin dechrau gweithio neu yn ailddechrau gweithio, bydd eich Lwfans Byw i'r Anabl yn aros yr un fath cyn belled nad yw eich anghenion gofal ac/neu eich anghenion symudedd wedi newid.

Fodd bynnag, os ydych yn cychwyn neu yn dychwelyd i'r gwaith neu i hyfforddiant oherwydd bod eich anghenion gofal neu/ac eich anghenion symudedd wedi newid ac os nad ydych wedi egluro'r newid hwn wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, yna mae angen i chi eu hysbysu fel y gellir adolygu eich dyfarniad budd-dal ac, os yw'n angenrheidiol, gwneud penderfyniad newydd. Gallai hyn arwain at gynnydd neu at leihad yn y swm Lwfans Byw i'r Anabl y mae gennych chi'r hawl i'w gael.

Budd-dal Analluogrwydd - 'Gwaith a Ganiateir'

Os ydych yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith - o fewn terfynau. Gelwir hyn yn Waith a Ganiateir. Ond os ydych yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd a chyflog, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych yn eu derbyn megis Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor.

Y Cyngor Dysgu a Sgiliau

Gall dysgu sgiliau newydd neu wella'r sgiliau sydd eisoes gennych wella'ch rhagolygon o gael swydd. Mae'r Cyngor Dysgu a Sgiliau yn darparu amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant a gallant ddweud wrthych beth sy'n cael ei gynnig gan ddarparwyr hyfforddiant eraill.

Cyngor gyrfa i bobl anabl 16 - 25 oed

Mae Connexions yn dwyn ynghyd amrediad llawn o wasanaethau cefnogi fel y gall pobl ifanc oresgyn rhwystrau i'w cyfleoedd gwaith, hyfforddiant ac addysg.

Gall Connexions gynnig cyngor personol trwy rhwydwaith o gynghorwyr personol ynghyd â gwasanaethau cefnogi arbenigol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU