Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hyfforddiant i weithwyr anabl

Dylai pob gweithiwr gael yr un cyfle i gyfrannu at raglenni hyfforddi cwmni. Mae'ch cyflogwr yn gyfrifol am sicrhau nad yw eich anabledd yn golygu eich bod yn cael eich rhwystro rhag derbyn hyfforddiant.

Dylai'ch cyflogwr ystyried gwneud y newidiadau canlynol i sicrhau bod rhaglen hyfforddiant ar gael i chi yn hwylus:

  • darparu hyfforddiant unigol i weithwyr anabl ar gyfer gallu defnyddio unrhyw addasiadau neu gyfarpar arbennig a ddefnyddir yn y gwaith
  • darparu hyfforddiant dros gyfnod hirach ar gyfer gweithwyr sydd ond yn gallu mynychu cwrs hyfforddi am hyn a hyn o oriau'r diwrnod
  • ail-hyfforddi gweithwyr sydd wedi dod yn anabl er mwyn iddynt allu aros yn eu swydd neu gymryd swydd wahanol
  • darparu deunydd hyfforddi mewn fformatau gwahanol, darparu dehonglydd iaith arwyddion a chaniatáu i hyfforddeion ddod â chynorthwy-ydd gofal personol gyda hwy ar gwrs
  • newid lleoliadau a ddefnyddir am hyfforddi

Dylai'ch cyflogwr hefyd sicrhau eu bod yn gwneud y canlynol:

  • hyfforddi aelodau staff eraill i ddeall eu polisi tuag at bobl anabl
  • cyflawni'u dyletswyddau fel hyfforddwyr i wneud addasiadau ar gyfer gweithwyr anabl
  • dangos arfer da trwy osod safonau o fewn y sefydliad
  • gwneud y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn hwylus i bobl anabl

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Rhaid i'ch cyflogwr gydymffurfio â gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Mae'n hanfodol hefyd fod eich cyflogwr yn sicrhau bod yr aelodau staff yn deall goblygiadau'r Ddeddf ac yn cydymffurfio â hi .

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU