Gall Mynediad at Waith eich helpu os yw eich iechyd neu'ch anabledd yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn gwneud eich gwaith. Mae'n rhoi cyngor a chefnogaeth i chi a'r sawl rydych yn gweithio iddo gyda chostau ychwanegol a allai godi o ganlyniad i'ch anghenion.
Efallai y gall Mynediad at Waith dalu am yr offer sydd eu hangen arnoch i weithio, am addasu safleoedd i ddiwallu eich anghenion, neu am weithiwr cefnogi. Gall hefyd dalu am gostau cyrraedd y gwaith os na allwch ddefnyddio trenau neu fysiau, ac am ddehonglydd mewn cyfweliadau swyddi, os bydd angen un arnoch.
Mae'n bosib y gallwch gael Mynediad at Waith os ydych:
a bod eich anabledd neu gyflwr eich iechyd yn eich rhwystro rhag gallu gwneud rhannau o'ch swydd.
Efallai nad yw eich anabledd neu gyflwr eich iechyd yn cael cryn effaith ar yr hyn rydych yn ei wneud bob dydd, ond ei fod yn cael effaith hirdymor ar ba mor dda y gallwch wneud eich gwaith. Os ydych yn credu bod hyn yn berthnasol i chi, dylech siarad â chynghorydd.
Os teimlwch fod y math o waith yr ydych yn ei wneud yn cael ei effeithio gan anabledd neu gyflwr iechyd sy'n debygol o bara am 12 mis neu fwy, holwch yr Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am Fynediad at Waith. Gallant eich rhoi mewn cysylltiad â'r Ganolfan Fusnes Mynediad at Waith agosaf atoch i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth.
Fel arfer bydd un o ymgynghorwyr Mynediad at Waith yn siarad gyda chi a'ch cyflogwr er mwyn dod i benderfyniad ynghylch y gefnogaeth fwyaf effeithiol ar eich cyfer. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir gwneud hyn dros y ffôn, ond gellir trefnu cyfarfod os oes raid.
Weithiau, efallai y bydd angen cyngor arbenigol, a bydd yr ymgynghorydd Mynediad at Waith yn helpu i drefnu hyn. Er enghraifft, efallai y bydd eich ymgynghorydd yn trefnu i fudiad arbenigol megis Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, gynnal asesiad ac argymell cefnogaeth briodol. Mewn achosion o'r fath, anfonir adroddiad ysgrifenedig a chyfrinachol at yr ymgynghorydd Mynediad at Waith, a fydd yn defnyddio'r wybodaeth hon i'w helpu i benderfynu ar y lefel gefnogaeth briodol.
Unwaith i'ch ymgynghorydd benderfynu ar y pecyn cefnogaeth y teimla sy'n briodol, bydd yn gofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith gymeradwyo'i argymhellion yn ffurfiol. Byddwch chi a'ch cyflogwr wedyn yn derbyn llythyr yn eich hysbysu o'r gefnogaeth sydd wedi'i chymeradwyo ar eich cyfer a'r grant sydd ar gael.
Eich cyflogwr fel arfer (neu chi os ydych yn hunangyflogedig) sy'n gyfrifol am drefnu'r gefnogaeth y cytunwyd arni ac am brynu'r cyfarpar gofynnol. Gall eich cyflogwr wedyn hawlio grant yn ôl tuag at y costau hyn oddi wrth Fynediad at Waith.
Bydd faint o gymorth y gallwch ei dderbyn gan Fynediad at Waith yn amrywio yn dibynnu ar ba gymorth sydd ei angen arnoch, ers pryd yr ydych chi wedi bod yn gweithio ac a ydych chi'n hunangyflogedig.
Gall Mynediad at Waith dalu hyd at 100 y cant o'r costau cymeradwy:
Beth bynnag yw'ch statws cyflogaeth, bydd Mynediad at Waith hefyd yn talu hyd at 100 y cant o'r costau a gymeradwyir ar gyfer cymorth gyda'r canlynol:
Bydd Mynediad at Waith yn talu cyfran o'r costau cefnogi:
Yn yr amgylchiadau hyn, byddai disgwyl i'ch cyflogwr dalu £300 cyntaf costau'r cymorth, ynghyd ag isafswm pellach o 20 y cant o'r costau hyd at drothwy o £10,000. Byddai'r Ganolfan Byd Gwaith yn talu'r swm sy'n weddill hyd at uchafswm o 80 y cant a hyd at 100 y cant o'r costau cytunedig dros £10,000.
Bydd yr ymgynghorydd Mynediad at Waith yn cytuno ar union lefel y rhannu costau gyda'ch cyflogwr.
Darperir yr holl gymorth am uchafswm o dair blynedd. Wedi hynny bydd Canolfan Fusnes Mynediad at Waith yn adolygu'ch amgylchiadau a'r gefnogaeth yr ydych yn ei derbyn.
Mae cymorth cyfathrebu yn cynnwys eiriolwyr, dehonglwyr, darllenwyr gwefusau ac ysgrifenwyr nodiadau Iaith Arwyddion Prydain.