Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl

Rhaglen sy'n darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol yw'r Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl sy'n helpu pobl i symud oddi ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd ac anabledd i waith cyflogedig.

Mae llawer o bobl sydd wedi ymuno â'r cynllun gwirfoddol hwn wedi cael budd o'r gefnogaeth i ddatblygu sgiliau newydd a chael gwell hyder - ynghyd â'r buddion ariannol o fod yn gweithio.

Sut mae'r rhaglen yn gweithio

Cyflwynir y rhaglen trwy rwydwaith o 'Froceriaid Swyddi' a ddaw o amrywiol sefydliadau. Mae pob Brocer Swyddi'n cynnig gwahanol wasanaethau, y gellir eu teilwra i'ch anghenion unigol chi.

Bydd eich Brocer Swyddi'n siarad gyda chi am eich sefyllfa a'r math o waith sy'n apelio atoch. Byddant yn eich helpu i benderfynu ar y llwybr gorau i chi at waith, ac yn gweithio gyda chi i gyflawni'ch nodau.

Pwy sy'n gymwys

Gallwch ymuno â'r rhaglen os ydych yn derbyn un neu ragor o'r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Cymhorthdal Incwm gan gynnwys premiwm anabledd
  • Cymhorthdal Incwm oherwydd fod eich Budd-dal Analluogrwydd wedi'i atal a chithau'n apelio yn erbyn y penderfyniad
  • Credydau Yswiriant Gwladol oherwydd analluogrwydd (gallwch gael y rhain ar eu pennau'u hunain neu gyda Chymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Cyngor neu Bensiwn Rhyfel)
  • Lwfans Byw i'r Anabl, ar yr amod nad ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith a heb fod yn gwneud gwaith cyflogedig am 16 awr neu fwy yr wythnos
  • Budd-dal Tai gyda phremiwm anabledd, ar yr amod nad ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith a heb fod yn gwneud gwaith cyflogedig am 16 awr neu fwy yr wythnos
  • Budd-dal Treth Cyngor, ar yr amod nad ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith a heb fod yn gwneud gwaith cyflogedig am 16 awr neu fwy yr wythnos
  • Pensiwn Rhyfel gydag Atodiad i'r Anghyflogadwy
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol gydag Atodiad i'r Anghyflogadwy
  • budd-dal sy'n cyfateb i'r Budd-dal Analluogrwydd oddi wrth un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Byd Gwaith.

Sut gall Broceriaid Swyddi helpu

Gall y Broceriaid Swyddi hyn gynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth, gan gynnwys:

  • eich helpu i edrych ar eich sgiliau a'ch galluoedd a nodi cyfleoedd swyddi addas
  • cymorth i lenwi ffurflenni cais
  • cyngor am ysgrifennu CVs
  • cymorth i baratoi ar gyfer cyfweliadau
  • canfod a oes gennych unrhyw anghenion hyfforddiant ac wedyn gweithio gyda darparwyr hyfforddiant lleol er mwyn ichi gael yr hyfforddiant gofynnol
  • gwybodaeth am swyddi gwag lleol
  • eich helpu trwy'r broses o wneud cais am swyddi
  • eich cefnogi yn ystod eich chwe mis cyntaf yn y gwaith

Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol i sicrhau bod pethau'n iawn ichi yn y gwaith. Gallant drefnu cymorth ychwanegol yn y gwaith (offer arbennig, er enghraifft) os bydd ei angen arnoch.

Efallai y bydd rhai Broceriaid Swyddi'n gallu'ch helpu gyda chostau teithio i gyfweliadau neu hyd yn oed dalu am rai o'ch costau tra'ch bod yn chwilio am waith. Byddant hefyd yn rhoi cyngor i chi am gymorth megis y cynllun Teithio i Gyfweliad.

Bydd eich Brocer Swyddi'n deall unrhyw rwystrau i waith y gallech eu hwynebu (megis colli'ch budd-daliadau er enghraifft) a bydd yn ceisio'ch helpu i oresgyn y problemau hyn.

Sut i ddod o hyd i Frocer Swyddi

Dim ond gydag un Brocer Swyddi y gallwch gofrestru ar y tro ac felly, efallai yr hoffech chi siarad â phob un yn eich ardal i weld beth y gallant ei gynnig cyn i chi wneud eich dewis.

Ar ôl ichi ddewis Brocer Swyddi, gofynnwch am gael cofrestru gyda nhw. Byddant yn gofyn am ychydig o wybodaeth amdanoch ac yn trefnu apwyntiad gyda chi er mwyn dechrau'ch helpu i ddod o hyd i swydd.

Newid eich Brocer Swyddi neu adael y rhaglen

Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd ar y Fargen Newydd i Bobl Anabl yn dod ymlaen gyda’u Brocer Swyddi. Ond, os ydych yn cael unrhyw problemau, gallwch ddewis Brocer Swyddi gwahanol.

Os mae eich amgylchiadau yn newid neu yr ydych yn penderfynu nad yw’r Fargen Newydd i chi, gallwch adael y rhaglen heb golli unrhyw fudd-daliadau mae yr hawl i dderbyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU