Os ydych yn ystyried dychwelyd i weithio ar ôl cyfnod hir o salwch neu ddiweithdra, gall y rhaglen Paratoi at Waith a gynigir gan y Ganolfan Byd Gwaith ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnoch.
Mae Paratoi at Waith yn rhaglen hyblyg iawn a theilwredig sydd yn gallu'ch helpu i baratoi i ddychwelyd i waith.
Gall Paratoi at Waith eich helpu fel a ganlyn:
Mae'r rhaglen yn para ryw chwe wythnos fel arfer, ond gellir ei hymestyn i 13 wythnos neu fwy.
Mae'r rhaglenni ar gael yn lleol fel arfer, naill ai yn adeiladau darparwr y rhaglen neu mewn man gwaith lleol. Weithiau gellir cynnal y rhaglen Paratoi at Waith mewn canolfan breswyl.
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y darparwr yn cwblhau adroddiad terfynol ac yn rhoi copi i chi ac i'ch Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl. Wedyn fe gewch apwyntiad gyda'ch Ymgynghorydd i drafod yr adroddiad. Bydd y ddau ohonoch yn cytuno ar gynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol a all gynnwys chwilio am waith, hyfforddiant neu addysg bellach.
Cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith i wneud apwyntiad gyda'r Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl. Gallant drafod a fydd y rhaglen Paratoi at Waith yn debygol o roi'r cymorth yr ydych yn ei geisio ichi.