Os oes gennych anabledd sy'n golygu eich bod yn cael trafferth dod o hyd i swydd neu gadw swydd, efallai y gall WORKSTEP eich helpu. Mae'r rhaglen gyflogaeth hon yn darparu cymorth i bobl anabl sy'n wynebu rhwystrau cymhleth wrth geisio cael swydd a'i chadw.
Mae'r rhaglen WORKSTEP hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i gyflogwyr.
Gall WORKSTEP fod o fudd i chi os oes gennych anabledd ac am gael swydd lle gallwch:
Cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu Ganolfan Gwaith a gofynnwch i gael eich cysylltu ag Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl. Bydd eich Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn gallu dweud os ydych yn gymwys am y rhaglen a’ch helpu i benderfynu os ydyw’n addas i chi.
Gall WORKSTEP ddarparu cymorth i chi a'ch cyflogwr:
Mae WORKSTEP yn rhoi cyfle ichi weithio mewn amrywiaeth o wahanol swyddi trwy amrediad eang o sefydliadau, o siopau bach ar y stryd fawr i gwmnïau cenedlaethol. Byddwch yn cael yr un cyflog â chydweithwyr nad ydynt yn anabl sy'n gwneud yr un gwaith neu waith tebyg
Os byddwch yn cychwyn ar swydd newydd, bydd darparwr WORKSTEP yn eich cyflwyno chi i'ch rheolwr a'ch cydweithwyr yn y gwaith ac yn cadw mewn cysylltiad i sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo'n hwylus.
Byddwch yn gallu cytuno ar gynllun datblygu gyda'ch darparwr WORKSTEP a'ch cyflogwr a fydd yn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer dysgu sut i wneud eich swydd, a datblygu.