Mae gan weithwyr anabl yr un hawliau cyflogaeth cyffredinol â gweithwyr eraill, ond mae 'na rai darpariaethau arbennig eraill ar eu cyfer o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Dan y ddeddf, mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl am reswm sy'n gysylltiedig â'u hanabledd, ymhob agwedd ar gyflogaeth, oni ellir cyfiawnhau hynny. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu:
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i ystyried gwneud 'addasiadau rhesymol' i sicrhau na fyddwch yn cael eich rhoi dan anfantais fawr gan y trefniadau cyflogaeth neu gan unrhyw nodwedd ffisegol yn y gweithle.
Nodir enghreifftiau o'r mathau o addasiadau y dylai eich cyflogwr eu hystyried, mewn ymgynghoriad â chi, yn y Ddeddf, ac maent yn cynnwys:
Pethau i'w hystyried yn y gwaith
Gallwch chwarae rhan ragweithiol wrth drafod y trefniadau hyn gyda'ch cyflogwr. Hefyd, efallai yr hoffech annog eich cyflogwr i siarad â rhywun gydag arbenigedd mewn darparu cymorth cysylltiedig-â-gwaith i bobl anabl.
Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd yn darparu arweiniad a chyngor manwl i chi a'ch cyflogwr ynghylch a yw addasiad yn rhesymol neu beidio. Ymhlith y materion y mae angen i'r ddau ohonoch eu hystyried y mae:
Efallai y byddwch am sicrhau bod eich cyflogwr yn gwybod am y rhaglen Mynediad at Waith gan y Ganolfan Byd Gwaith. Trwy'r rhaglen hon, gall cyflogwyr gael cyngor am addasiadau priodol yn ogystal â rhywfaint o gymorth ariannol o bosibl tuag at gost yr addasiadau.
Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) yn ffynhonnell dda o gyngor os teimlwch i chi ddioddef gwahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith neu fan arall. Gall helpu hefyd os teimlwch i chi ddioddef camwahaniaethu yn eich erbyn ac am gyflwyno hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.