Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cyfrifiadur yn haws ei ddefnyddio

Mae nifer o ffyrdd ar gael i wneud cyfrifiadur yn haws ei ddefnyddio trwy newid y gosodiadau arno. Er enghraifft, gallwch gynyddu maint y testun a'r eiconau ar y sgrîn. Gallwch hefyd symleiddio rhai gweithredodd ailadroddus drwy ddefnyddio bysellau hwylus ar y bysellfwrdd.

Newid y gosodiadau ar eich cyfrifiadur

Ar gyfer eich anghenion unigol chi, gallwch newid y gosodiadau ar eich cyfrifiadur i wneud y canlynol:

  • cynyddu maint y testun
  • cynyddu maint 'pwyntydd' y llygoden ar-y-sgrîn
  • addasu cyflymder a sensitifrwydd y llygoden
  • addasu ymatebolrwydd y bysellau ar fysellfwrdd
  • newid y lliwiau ar y sgrîn i wella'r cyferbyniad
  • addasu'r disgleirdeb neu'r cyferbyniad ar y sgrîn

Yn aml gwneir hyn trwy'r 'gosodiadau' neu'r 'opsiynau cymorth arbennig' ar eich cyfrifiadur. Dylai adran 'help' eich cyfrifiadur ddangos i chi sut i newid gosodiadau'ch cyfrifiadur.

Mae rhai rhaglenni meddalwedd yn gadael i chi newid maint y testun trwy ddewis yr opsiwn 'gweld' yn y bar ddewislen uchaf a newid maint y testun i 'mawr'.

Mae gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron opsiynau cymorth arbennig sylfaenol eraill arnynt yn barod gan gynnwys nodweddion testun-i-lais' a chwyddwyr, sy'n cynyddu maint rhan o'r sgrîn pan fyddwch yn pwyntio ati.

Os ydych yn fyddar neu â nam ar eich clyw, efallai y byddai neges ar-y-sgrîn o fudd ichi sy'n rhoi gwybod ichi pan fydd eich cyfrifiadur yn gwneud sain rhybudd (er enghraifft, pan dderbynnir neges e-bost newydd).

Bysellau hwylus ar y bysellfwrdd

Os ydych yn cael anhawster defnyddio llygoden, gallwch wneud y rhan fwyaf o weithredoedd ar y bysellfwrdd. Yn hytrach na defnyddio llygoden, defnyddir bysellau hwylus.

Mae llawer o raglenni cyfrifiadurol cyffredin yn cynnwys bysellau hwylus ar gyfer y bysellfwrdd yn barod ac mae rhai hefyd yn gadael ichi eu newid ar gyfer eich anghenion penodol chi.

Cynnyrch a meddalwedd cyfrifiadurol

Mae cynnych a meddalwedd cyfrifiadurol ar gael i helpu pobl gydag anableddau penodol, yn cynnwys bysellfyrddau arbenigol neu ffyn rheoli, darllenwyr sgrîn a meddalwedd sy'n gadael ichi reoli cyfrifiadur gan ddefnyddio'r llais.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU