Mae canolfannau ar-lein y DU ar gyfer pobl nad yw'n bosib neu'n hawdd iddyn nhw fanteisio ar dechnolegau newydd. Mae'r canolfannau'n helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau sy'n ofynnol er mwyn defnyddio'r Rhyngrwyd i gael gafael ar wybodaeth ac anfon neges e-bost.
Mae UK ar-lein yn gynllun dan law'r llywodraeth ac yn aml ceir y canolfannau mewn adeiladau cyhoeddus, er enghraifft, llyfrgelloedd. Maent ar gael hefyd mewn colegau lleol, canolfannau cymunedol, unedau symudol a chaffis Rhyngrwyd.
Nid oes yr un cyfleusterau ymhob canolfan ond mae gan rai amrywiaeth o 'dechnolegau cynorthwyol' neu addasol ar gael i helpu defnyddwyr gydag anabledd. Er enghraifft, cynnyrch sy'n darllen beth sydd ar sgrîn y cyfrifiadur ar gyfer pobl ddall neu bobl â nam ar eu golwg. Gall technolegau cynorthwyol eraill wneud y defnydd o lygoden neu fysellfwrdd yn haws os oes gennych chi anabledd corfforol.
Bydd aelod o staff yn eich helpu i ddefnyddio'r cyfrifiadur, ynghyd ag unrhyw offer arall, yn ogystal â dangos i chi sut i ddefnyddio'r Rhyngrwyd. Mae'n syniad da rhoi gwybod i'r ganolfan pryd yr ydych am ymweld. Gallwch wedyn drafod unrhyw ofynion gyda staff y ganolfan.