Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynediad i wasanaethau bob dydd

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn rhoi hawliau mynediad pwysig i bobl anabl at wasanaethau bob dydd.

Gwasanaethau bob dydd

Mae gwasanaethau bob dydd yn cynnwys y rhai a ddarperir gan gynghorau lleol, meddygfeydd, gwestai, banciau, tafarnau, theatrau, siopau trin gwallt, addoldai, llysoedd a grwpiau gwirfoddol megis grwpiau chwarae. Mae gwasanaethau anaddysgol a ddarperir gan ysgolion yn cael eu cynnwys hefyd.

Nid mater o osod rampiau a lledu drysau i ddefnyddwyr cadair olwyn yn unig yw mynediad at wasanaethau - mae'n fater o wneud gwasanaethau'n haws i'w defnyddio i bawb sy'n anabl, gan gynnwys pobl sy'n ddall, sy'n fyddar neu sydd ag anabledd dysgu.

Addasiadau rhesymol

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae'n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaeth drin pobl anabl yn llai ffafriol nag eraill am reswm sy'n ymwneud â'u hanabledd. Mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud 'addasiadau rhesymol' i'r ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau fel y gall pobl anabl eu defnyddio.

Dyma rai enghreifftiau o addasiadau rhesymol:

  • gosod dolen sain ar gyfer pobl â nam ar eu clyw
  • rhoi'r dewis o archebu tocynnau dros yr e-bost yn ogystal â dros y ffôn
  • darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i staff sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd
  • darparu arwyddion mwy a chlir ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg
  • rhoi ramp wrth fynedfa adeilad yn ogystal â grisiau

Gall yr hyn a ystyrir yn 'addasiad rhesymol' i sefydliad mawr megis banc, fod yn wahanol i addasiad rhesymol i siop fach leol. Yr hyn sy'n ymarferol i sefyllfa'r darparwr gwasanaeth sy'n bwysig, a pha adnoddau sydd gan y busnes. Ni fydd yn rhaid iddynt wneud newidiadau sy'n anymarferol neu y tu hwnt i'w modd.

Oni ellir ei gyfiawnhau, mae peidio â darparu neu wrthod darparu gwasanaeth i berson anabl, a gynigir i bobl eraill, yn wahaniaethu.

Manteisio i'r eithaf ar y gwasanaethau lleol a ddefnyddiwch gan amlaf

Mae'n syniad da siarad gyda'r darparwyr gwasanaeth yr ydych yn eu defnyddio gan amlaf, megis eich meddygfa leol neu siop goffi gan egluro'n union beth yw eich anghenion. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall pa addasiadau y gall fod angen iddynt eu gwneud i'r ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau.

Beth i'w wneud os ydych yn teimlo bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn

Beth i'w wneud gyntaf

Os yw'n anodd i chi ddefnyddio gwasanaeth lleol - er enghraifft, ni allwch ffonio llinell gymorth oherwydd eich bod yn fyddar - dylech gysylltu â'r sefydliad a rhoi gwybod iddynt. Wedi'r cyfan, maen nhw eisiau gwneud yn siŵr y gall pawb ddefnyddio eu gwasanaeth.

Dylech gynnig awgrymiadau adeiladol ynghylch sut y gallai'r darparwr gwasanaeth wella'r ffordd y darperir eu gwasanaethau. Eglurwch yr anhawster yr ydych yn ei gael wrth gael mynediad at eu gwasanaeth a rhowch enghreifftiau o'r modd y mae busnesau eraill wedi datrys y broblem, os gwyddoch am unrhyw rai.

Os yw'r darparwr gwasanaeth yn cytuno i wneud addasiad, gofynnwch iddynt nodi hynny ar bapur. Bydd hyn yn help i chi holi eto am eich cais os na fydd y darparwr gwasanaeth yn cadw at ei air.

Gwybodaeth i fusnesau am eu cyfrifoldebau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol i gyfeirio darparwyr gwasanaeth at wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am fwy o wybodaeth am sut i wneud eu gwasanaethau'n hwylus i gwsmeriaid anabl. Gallech ddweud wrthynt hefyd y gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gynghori darparwyr gwasanaeth am eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac am y modd y gallant gwrdd â'r cyfrifoldebau hynny.

Mae'r ddogfen ganlynol yn ganllaw defnyddiol i ddarparwyr gwasanaeth ynghylch eu cyfrifoldebau dan y Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Fe'i cyhoeddwyd gan y Comisiwn Hawliau Anabledd, a ddisodlwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 1 Hydref 2007

Gwybodaeth am gyfrifoldebau busnesau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol i gyfeirio darparwyr gwasanaeth at wefan y Comisiwn Hawliau Anabledd am fwy o wybodaeth am sut i wneud eu gwasanaethau yn hwylus i gwsmeriaid anabl. Gallwch ddweud wrthynt hefyd y gall y Comisiwn Hawliau Anabledd gynghori darparwyr gwasanaeth am eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a sut y gallant gwrdd â'r cyfrifoldebau hynny.

Mae'r ddogfen ganlynol yn ganllaw defnyddiol i ddarparwyr gwasanaeth am eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Ble i gael rhagor o wybodaeth ffurfiol

Os nad yw siarad gyda darparwr gwasanaeth am eich anghenion yn arwain at unrhyw newidiadau, y lle cyntaf i droi ato am gymorth a chyngor yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae'r comisiwn yn rhoi cymorth i bobl anabl sicrhau eu hawliau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU