Dylai fod yn hwylus i chi bleidleisio mewn etholiadau lleol a chyffredinol - pa un a ydych yn dewis pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio neu mewn ffordd arall (er enghraifft, drwy'r post).
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (1995), mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith bod darparwyr gwasanaethau'n gwneud addasiadau 'rhesymol' i'w hadeiladau er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl gael mynediad iddynt. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i orsafoedd pleidleisio.
Gallwch gael gwybodaeth am y broses bleidleisio ac am eich gorsaf bleidleisio leol drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol neu'ch cyngor lleol.
Dylai cynghorau lleol ddarparu gwybodaeth am orsafoedd pleidleisio, gan gynnwys manylion am y canlynol:
Mae’r wybodaeth hon ar gael yn aml ar wefan y cyngor. Dylai fod ganddynt hefyd linell gymorth a chyfeiriad e-bost er mwyn i chi allu ysgrifennu atynt i gael rhagor o wybodaeth.
Gall grwpiau anabledd lleol roi cyngor a chymorth i chi hefyd.
Os bydd angen cymorth arnoch ar ddiwrnod pleidleisio, gallwch wneud cais i'r swyddog llywyddu yn gofyn iddo farcio'ch papur pleidleisio ar eich rhan. Neu dylent adael i chi bleidleisio gyda chymorth cydymaith.
Rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu dyfais bleidleisio drwy gyffwrdd, ac arddangos o leiaf un fersiwn print mawr o'r papur pleidleisio. Mae hyn yn ei gwneud yn haws pleidleisio heb gymorth person arall os ydych yn ddall neu os oes gennych nam ar eich golwg.
Gallwch hefyd ofyn i staff yr orsaf bleidleisio ddarllen rhestr yr ymgeiswyr a'u manylion i chi.
Mae gan y ddyfais bleidleisio gefn gludiog, sy'n glynu'n gadarn wrth y papur pleidleisio ond mae modd tynnu'r ddyfais oddi ar y papur heb wneud difrod iddo.
Mae fflapiau ar y ddyfais yn gorchuddio pob un o'r blychau ar y papur pleidleisio lle nodir y bleidlais. Mae rhif yr ymgeisydd sy'n cyfateb i'r blwch sydd wedi'i orchuddio gyda fflap neilltuol wedi'i argraffu mewn inc du trwchus ar wyneb y fflap. Mae'r rhif i'w weld yn dda yn erbyn cefndir gwyn y papur pleidleisio ac mae hefyd wedi'i godi oddi ar y papur fel bod modd ei adnabod drwy gyffwrdd.
I fwrw'ch pleidlais, rydych yn codi'r fflap perthnasol i ddatgelu'r blwch ar y papur pleidleisio ac yn rhoi eich marc. Gallwch wedyn dynnu'r ddyfais oddi ar y papur pleidleisio, plygu'r papur a'i osod yn y blwch pleidleisio heb gymorth.
Os ydych yn ei chael yn anodd cyrraedd eich gorsaf bleidleisio, gallwch bleidleisio mewn ffordd arall.
Gall unrhyw un bleidleisio drwy'r post a does dim rhaid rhoi rheswm am hynny. Rhaid i chi wneud cais am gael pleidleisio drwy'r post gryn amser cyn yr etholiad. Gallwch lwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy'r post oddi ar wefan 'About My Vote', yn ogystal â chael mwy o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post.
Os na allwch chi bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy. Golyga hyn eich bod yn penodi rhywun arall i fod yn ddirprwy i chi, ac i bleidleisio ar eich rhan. Cysylltwch â'r swyddfa cofrestru etholiadol yn eich cyngor lleol i gael ffurflen gais. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich swyddfa gofrestru etholiadol a mwy o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy ar wefan 'About My Vote'.
Proses ydy 'atwrneiaeth' lle mae person yn rhoi hawl cyfreithiol i un neu fwy o bobl - yr atwrnai/atwrneiod - i reoli eu materion gan nad yw'r gallu meddyliol ganddynt i wneud hynny eu hunain. Gallai hyn olygu hawl i lofnodi sieciau neu dynnu arian o gyfrif cynilo ar eu cyfer.
Nid yw atwrneiaeth yn ymestyn i'r broses etholiadol. Nid oes gan atwrnai bwerau i bleidleisio ar ran person arall, onid ydynt wedi cael eu penodi'n ddirprwy ar ffurflen sydd wedi'i llofnodi gan y person.
Mae gwefan y Comisiwn Etholiadol, 'About My Vote', yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei lawrlwytho mewn print bras ac mewn ieithoedd gwahanol, a hefyd fel ffeiliau sain. Mae'r taflenni'n cynnwys: canllaw syml i bleidleisio - wedi'i anelu'n bennaf at y rhai sy'n pleidleisio am y tro cyntaf ac sy'n sôn am bleidleisio drwy'r post.
Mae fersiynau Braille ar gael gan y swyddfa cofrestru etholiadol yn eich cyngor lleol.
Mae gwefan 'Our Vote, Our Voice' wedi cael ei datblygu gyda chymorth pobl a chanddynt anawsterau dysgu. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am bleidleisio. Gallwch lawrlwytho pecyn gwybodaeth neu archebu DVD am etholiadau.
Daeth y Comisiwn Hawliau Anabledd i ben ar 28 Medi 2007, ond mae ei wefan yn dal ar gael. Mae'r wefan yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am bleidleisio i bobl a chanddynt anableddau dysgu. Ceir arni hefyd daflenni ffeithiau a phecynnau gwybodaeth i'w llwytho ar ffurf pdf. Mae rhai ar gyfer pobl a chanddynt anableddau dysgu, ac eraill ar gyfer y bobl sy'n rhoi cymorth iddynt.
Corff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU ydy'r Comisiwn Etholiadol. Un o'i nodau yw edrych ar sut y gellir moderneiddio'r broses etholiadol, gan gynnwys sut mae gwneud pleidleisio'n fwy hwylus i bobl anabl. Mae ei wefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am etholiadau ac am y broses ddemocrataidd, gan gynnwys gwybodaeth sy'n arbennig o berthnasol i bobl anabl.