Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newid i deledu digidol

Bydd pob teledu yn y DU yn derbyn signal ar ffurf ddigidol unwaith y bydd y gwaith o newid i'r drefn ddigidol wedi'i gwblhau yn 2012. Mae cymorth ar gael i uwchraddio i deledu digidol os bydd ei angen arnoch.

Y cynllun cynorthwyo wrth newid i'r drefn ddigidol

Mae'r Llywodraeth wedi sefydlu cynllun i wneud yn siŵr y bydd pawb yn barod i drosglwyddo i deledu digidol. Bydd y cynllun cynorthwyo yn rhoi cymorth i drosi un set deledu'n ddigidol. Bydd hyn yn cynnwys:

  • cymorth gydag offer
  • cymorth i osod
  • cymorth ar ôl gosod

Pwy sy'n gymwys

Mae'r cynllun ar gael i bobl sy'n 75 oed a throsodd, pobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu bobl rannol ddall, a phobl a chanddynt anableddau arwyddocaol, hy. sy'n derbyn lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl.

Os ydych chi'n gymwys i gael cymorth, bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon atoch ymhell cyn i'ch rhanbarth chi droi'n ddigidol. Byddwch yn derbyn manylion ynghylch sut mae'r cynllun yn gweithio a pha ddewisiadau sydd yna o ran cael teledu digidol.

Costau

Darperir y cynllun am ddim i gartrefi cymwys sydd ar incwm isel iawn, hy. y rheini sy'n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Pensiwn. Bydd angen i gartrefi cymwys eraill dalu'r ffi ratach o £40, ond dim ond unwaith y bydd angen talu'r ffi hon.

Gweinyddiaeth

Sefydlir y cynllun cymorth gan y BBC ac fe'i rheolir gan bartner darparu. Bydd manylion ynghylch lle i gael mwy o wybodaeth ar gael erbyn diwedd 2007.

Beth yw manteision teledu digidol i bobl anabl?

Mae teledu digidol yn cynnig gwasanaethau penodol i wylwyr gyda nam ar eu golwg neu ar eu clyw, megis

  • disgrifiadau llafar
  • is-deitlau
  • gwasanaethau iaith arwyddion

Dim ond nifer fach o raglenni sy'n cynnig rhai o'r nodweddion hynny ar deledu analog

Nam ar y clyw 

Gyda'r rhan fwyaf o gynnyrch digidol, gellir dewis cael isdeitlau dim ond drwy bwyso botwm. Mae gwasanaethau iaith arwyddion hefyd i'w gweld ar fwy a mwy o raglenni. Ar deledu digidol, gellir cael y gwasanaeth hwn ar sianel ar wahân, yn yr un modd ag y mae isdeitlau'n gweithio. Ceir opsiwn wedyn i'w droi ymlaen neu ei ddiffodd.

Nam ar y golwg

Mae disgrifiadau llafar yn drac sain ychwanegol ar raglenni. Bydd yn disgrifio'r newidiadau sy'n digwydd ar y sgrin pan fydd seibiannau yn y ddeialog.

Mae dwy ffordd o gael disgrifiadau llafar. Gellir cael y disgrifiad ar yr un sianel â'r rhaglen wreiddiol, neu gellir ei ddarlledu ar sianel sain arall sy'n cynnwys y disgrifiadau llafar.

Mae'r ail ffordd yn rhoi mwy o hyblygrwydd oherwydd gall un person wrando gyda chlustffonau, a gall pobl eraill edrych ar y rhaglen heb y disgrifiadau sain. Mae hefyd yn bosib newid lefel sain y rhaglen wreiddiol a thrac sain y disgrifiadau llafar yn annibynnol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU