Er mwyn ei gwneud yn fwy hwylus i bawb fwynhau'r hyn sydd ar y teledu, mae fformatau gwahanol wedi'u datblygu ac yn dal i gael eu datblygu. Mae fformatau a gwasanaethau'n cynnwys is-deitlau, disgrifiadau llafar ac iaith arwyddion.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod am is-deitlau y gellir eu troi ymlaen a'u diffodd ar gyfer amrywiaeth eang o raglenni teledu, DVDs a fideos.
Yn unol â deddfwriaeth, rhaid i 90 y cant o raglenni Sianel 3 (ITV) a Sianel 4 gael is-deitlau erbyn diwedd 2009. Rhaid i o leiaf 80 y cant o raglenni ar Sianel 5 gael is-deitlau erbyn diwedd 2007.
Oherwydd y cytundeb rhwng y BBC a'r Llywodraeth, mae'n ofynnol bod y BBC yn cyrraedd y lefel is-deitlo y mae wedi ymrwymo iddi, sef 100 y cant o'r holl raglenni a ddarlledir ganddynt erbyn 2008.
Mae dyletswyddau is-deitlo hefyd wedi eu hymestyn i nifer o sianelau eraill, p'un ai drwy signal daearol digidol ynteu signal lloeren digidol y maent yn darlledu. Mae'n ofynnol i sianelau perthnasol is-deitlo 80 y cant o'u rhaglenni (ceir rhai eithriadau) o fewn 10 mlynedd.
Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) daflen ffeithiau ar eu gwefan o'r enw 'Sut mae cael is-deitlau'. Mae'n esbonio sut mae defnyddio is-deitlau a'r offer angenrheidiol, pan fo angen.
Mae disgrifiad llafar yn ychwanegol at ddeialog y rhaglen. Gyda disgrifiadau llafar, bydd person yn rhoi disgrifiad, er enghraifft, o weithredoedd ac iaith corff yr actorion.
Mae technoleg wedi'i datblygu er mwyn cael 'modd' ar wahân o gludo'r gwasanaeth hwn. Bydd yn galluogi person dall neu berson â nam ar ei olwg i fwynhau rhaglen drwy ddefnyddio disgrifiad llafar gyda rhywun nad oes angen y gwasanaeth hwn arnynt.
Gall pobl sy'n tanysgrifio i wasanaethau cebl digidol neu signal lloeren digidol gael disgrifiadau llafar drwy addasu'r gosodiadau ar y blychau sy'n mynd ar ben set deledu, a gall pobl sy'n gwylio sianelau daearol digidol eu cael drwy brynu derbynnydd addas.
Mae disgrifiadau llafar ar gael hefyd ar rai fideos a DVDs. Mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda chynhyrchwyr a darlledwyr i ddatblygu'r dechnoleg hon a sicrhau ei bod ar gael i bobl.
Y targed presennol yw cael disgrifiadau llafar gyda 10 y cant o raglenni, a'r rheini gyda'r un dyddiadau targed ag i'r is-deitlau.
Mae gwefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) yn cynnwys gwybodaeth am sut i hwyluso'r defnydd o'r teledu i bobl ddall neu i bobl â nam ar eu golwg. Mae ganddynt hefyd lyfrgell o DVDs a fideos gyda disgrifiadau llafar.
Dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 rhaid i ddarlledwyr fodloni'r gofynion cyfreithiol naill ai drwy gyfieithu rhaglenni i iaith arwyddion, neu sicrhau bod rhaglenni'n cael eu gwneud gan bobl fyddar neu ar eu rhan, ac yn cael eu cyflwyno mewn iaith arwyddion.
Y targed yw cael iaith arwyddion ar 5 y cant o raglenni gan ddilyn yr un dyddiadau targed ag i'r is-deitlau.
Mae gwefan y BBC yn rhoi manylion rhaglenni sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Mae'r gwaith o hwyluso mynediad at wasanaethau teledu i bobl sydd â nam ar y synhwyrau yn gwella drwy'r amser. Ceir targedau tymor byr a hirdymor ar gyfer darlledwyr teledu masnachol ac anfasnachol er mwyn iddynt ddarparu cyfran o'u rhaglenni mewn fformatau gwahanol.
Mae'r daflen 'Television access for people with sensory impairments' yn cynnwys gwybodaeth am y targedau y mae'n rhaid i ddarlledwyr eu cyrraedd o ran darparu rhaglenni mewn fformatau gwahanol. Gallwch lwytho'r daflen hon oddi ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Y gyfraith ar hwyluso mynediad at wasanaethau teledu
Roedd Deddf Cyfathrebu 2003 yn disodli'r holl ddeddfwriaeth flaenorol ynghylch yr hyn y mae disgwyl i ddarlledwyr ei ddarparu o ran fformatau gwahanol.
Ofcom (Swyddfa Cyfathrebu) sy'n gyfrifol am weithredu darpariaethau'r Ddeddf Cyfathrebu. Byddant hefyd yn monitro pa mor dda mae sianelau perthnasol yn diwallu'r gofynion cyfreithiol ac mae'r grym ganddynt i osod sancsiynau, gan gynnwys rhoi dirwyon i ddarlledwyr nad ydynt yn cydymffurfio. Nodir manylion yr holl sianelau y mae'n ofynnol iddynt ddarparu mynediad at wasanaethau, a'r targedau presennol y mae'n ofynnol iddynt eu cyflawni, yng Nghod Ofcom ar Hwyluso Mynediad at Wasanaethau Teledu, sydd ar gael ar ei gwefan.