Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Chwaraeon ysgol a phobl anabl

Dylai chwaraeon yn yr ysgol fod yn hwyliog ac yn apelio at bob plentyn ni waeth beth yw ei lefel o ran sgiliau. Mae addysg gorfforol a chwaraeon yn chwarae rhan bwysig ym mywyd ysgol - yn gwella iechyd ac yn datblygu sgiliau cymdeithasol.

Addysg gorfforol a disgyblion anabl

Mae Addysg Gorfforol yn rhan orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol ar bob Cyfnod Allweddol i bob disgybl.

Dylai pob disgybl allu cymryd rhan mewn addysg gorfforol ac ni ddylai anabledd rwystro unrhyw un rhag cyfrannu at raglenni chwaraeon. Dylid cael trefniadau yn yr ysgol i gefnogi pobl ifanc gydag anableddau corfforol neu anableddau dysgu fel eu bod yn gallu cyfrannu'n briodol at addysg gorfforol a chwaraeon, mewn ysgolion prif-ffrwd ac ysgolion arbennig. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan athro a, lle bo angen, prynu cyfarpar arbennig.

Dywed y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ei fod yn anghyfreithlon i ysgolion wahaniaethu yn erbyn plentyn oherwydd ei anabledd. Mae hyn yn cynnwys chwaraeon ysgol.

Dylai ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol wneud 'addasiadau rhesymol' i'w hadeiladau, polisïau a'u gweithdrefnau os ydynt yn rhoi disgyblion anabl dan anfantais.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU