Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cefnogaeth ar gyfer chwaraeon i bobl anabl

Mae llawer o sefydliadau'n gweithio tuag at wella hygyrchedd chwaraeon i bobl anabl ar bob lefel.

Sport England

Mae Sport England yn cynghori, yn buddsoddi ac yn hyrwyddo chwaraeon cymunedol. Mae Sport England hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn helpu i sicrhau bod Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd Llundain 2012 yn rhoi lle blaenllaw i chwaraeon ledled Lloegr ar ôl y Gemau.

Mae gwneud chwaraeon yn hwylus i bobl anabl yn allweddol er mwyn codi'r nifer sy'n cyfrannu. Mae Sport England yn cydnabod hyn ac yn gweithio'n bwrpasol tuag at wneud chwaraeon a lleoliadau chwaraeon yn fwy hygyrch a chynhwysol.

Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Lloegr

Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Lloegr yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu chwaraeon ar gyfer pobl anabl yn Lloegr. Mae'n gweithio'n agos gyda sawl sefydliad chwaraeon anabledd cenedlaethol.

Un o amcanion EFDS yw codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o chwaraeon ar gyfer pobl anabl. Mae EFDS hefyd yn datblygu rhaglenni addysg i gynyddu nifer yr hyfforddwyr sy'n gweithio gyda phobl anabl.

Y Cynllun Ffitrwydd Cynhwysol

Pwrpas Cynllun Ffitrwydd Cynhwysol Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Lloegr yw sicrhau bod pobl anabl yn cael yr un mynediad â phawb arall at weithgarwch corfforol yn y gampfa. Mae wedi meithrin rhwydwaith o dros 180 o gyfleusterau cynhwysol ledled Lloegr.

Hefyd, mae'r cynllun achredu nod ansawdd Nod Ffitrwydd Cynhwysol yn dyfarnu'r nod Ffitrwydd Cynhwysol i gyfleusterau ledled y Deyrnas Unedig os ydynt yn bodloni rhai amodau.

Mae'r meini prawf ar gyfer achrediad yn cynnwys y canlynol:

  • hygyrchedd adeiladau
  • offer addas
  • hyfforddiant staff i godi ymwybyddiaeth o anghenion cwsmeriaid anabl
  • strategaethau marchnata sy'n cynnwys cwsmeriaid anabl posibl
  • polisïau a gweithdrefnau cynhwysol

Parasport

Mae Parasport yn fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Paraolympaidd Prydain (BPA) a'r cwmni gwasanaethau Deloitte. Y nod yw cynyddu lefelau cyfranogiad mewn digwyddiadau chwaraeon. Bydd Parasport yn gwella'r ffordd y caiff pobl sy'n dda mewn chwaraeon eu hadnabod a'u cefnogi ar lefel gymunedol.

Fel rhan o'r prosiect, mae wedi'i gynllunio i ddarparu bwrsarïau unigol i athletwyr talentog a chanddynt botensial mawr drwy bartneriaeth gyda SportsAid, a sefydlu Sefydliad Chwaraeon Anabledd newydd o'r enw Parasport, sy'n cael ei redeg gan y BPA.

Tra mai'r BPA yw'r corff sy'n gyfrifol am ochr 'elitaidd' chwaraeon anabledd, mae'r prosiect Parasport yn agored i bobl o bob gallu.

Cynllun Ysgoloriaeth yr Athletwr Talentog

Mae Cynllun Ysgoloriaeth yr Athletwr Talentog yn weithredol yn Lloegr ac yn helpu athletwyr ifanc talentog sydd wedi'u hymrwymo i gyfuno eu chwaraeon a'u haddysg. Mae 50 o chwaraeon yn gymwys ar gyfer Cynllun Ysgoloriaeth yr Athletwr Talentog ar hyn o bryd, ac mae 16 ohonynt yn chwaraeon anabledd.

Mae'r cynllun yn agored i bobl rhwng 16 a 25, gyda therfyn oedran o 35 ar gyfer pobl anabl. Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod â phasbort Prydeinig dilys a rhaid iddynt fod yn gymwys i gystadlu yn eu chwaraeon dros Brydain.

Mae'r cynllun yn darparu pecyn o wasanaethau chwaraeon i athletwyr ac yn rhoi cyfle iddynt ddefnyddio cyfleusterau hyfforddi o safon dda.

Mae Ysgoloriaethau Cynllun Ysgoloriaeth yr Athletwr Talentog 2012 ar gael i bobl ym myd chwaraeon i gael medal yng ngemau Olympaidd a Pharaolympaidd 2012.

Mentrau chwaraeon y Llywodraeth

Os hoffech chi gael gwybodaeth am gyllid, cynlluniau a mentrau'r llywodraeth gyda golwg ar chwaraeon, ewch ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae'r Llywodraeth am sicrhau bod nifer y bobl anabl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn cynyddu ar draws y bwrdd - naill ai fel cyfranogwr, fel hyfforddwr neu weinyddwr.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU