Mae amgueddfeydd, orielau, arddangosfeydd a mannau eraill o ddiddordeb yn dod yn fwy hwylus drwy'r amser. Mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae arddangosfeydd ac adeiladau'n cael eu cyflwyno - gan gynnwys teithiau â chefnogaeth.
Mae llawer o'r amgueddfeydd ac orielau mwy wedi ymuno â gwasanaeth TypeTalk BT fel bo'r holl aelodau staff yn gallu cyfathrebu dros y ffôn gyda chi os nad ydych yn gallu defnyddio ffôn llais.
Fel arall, gellir cael gwybodaeth trwy lyfrynnau, yr e-bost neu wefannau. Efallai hefyd bod modd archebu tocynnau dros yr e-bost. Dylent gael adran sy'n rhoi manylion y cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw, er enghraifft, dolenni sain.
Holwch i weld a yw teithiau tywys yn ymgorffori systemau dolen sain neu chwyddo sain cludadwy. Gofynnwch hefyd a oes digwyddiadau'n cael eu cynnal yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu'n cael eu trosi i Iaith Arwyddion Prydain.
Mae'n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o amgueddfeydd neu orielau - oherwydd adnoddau neu gyllid - yn gallu cael dehonglydd iaith arwyddion ymhob digwyddiad. Yn hytrach, efallai y cewch gynnig rhywfaint o sgyrsiau lle bydd dehonglydd iaith arwyddion ar gael, neu efallai y gofynnir i chi roi rhybudd os ydych yn bwriadu mynychu'r ganolfan er mwyn iddynt allu trefnu dehonglydd.
Mae'n bosibl y bydd rhai digwyddiadau'n cynnwys nodiadau wedi'u paratoi'n barod ar y sgwrs.
Gellir defnyddio is-deitlau neu benawdau pan ddefnyddir offer clyweledol.
Efallai y bydd palanteipydd yn bresennol mewn rhai darlithoedd a sgyrsiau. Dyma berson sy'n teipio pob gair sy'n cael ei ddweud a'r rheini wedyn yn ymddangos ar gyfrifiadur. Neu gellir darparu crynodeb o'r hyn sy'n cael ei ddweud.