Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gweini - archwiliad meddygol

Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Gweini ar gyfer pobl sy'n 65 neu'n hŷn y mae angen cymorth arnynt gyda gofal personol oherwydd eu bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.

Efallai y gofynnir i rai pobl sy'n gwneud cais am Lwfans Gweini gael archwiliad meddygol. Fel arfer, gwneir hyn oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth am eich anabledd neu'ch salwch cyn y gellir gwneud penderfyniad am eich hawliad.

Beth yw archwiliad meddygol?

Mae archwiliad meddygol yn golygu cyfweliad ac weithiau archwiliad meddygol gan feddyg sydd wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol ym maes ymwybyddiaeth o anabledd a budd-daliadau.

Mae'r archwiliad yn debygol o fod yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan eich meddyg teulu eich hun. Nid bwriad archwiliad meddyg y Gwasanaethau Meddygol yw rhoi diagnosis neu drafod sut mae trin eich cyflwr meddygol; ei bwrpas yw asesu sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi ac mae'n bosib na fydd rhaid i'r meddyg wneud archwiliad corfforol.

Pwy sy'n gwneud beth

Dyma'r bobl a'r sefydliadau sy'n ymwneud â phroses yr archwiliad meddygol:

  • y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr - sy'n rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau - sy'n delio â hawliadau budd-dal
  • Y Gwasanaethau Meddygol - sy'n trefnu archwiliadau meddygol ar ran y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr
  • y 'penderfynwr' - person nad yw'n feddyg yn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad am eich cais am fudd-dal
  • y Meddyg Archwilio - y meddyg sy'n cynnal yr archwiliad meddygol

Pam y gofynnwyd i chi ddod am archwiliad meddygol

Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi ddod am archwiliad meddygol. Nid yw'n golygu bod y wybodaeth roesoch chi ar eich ffurflen gais yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich cais yn cael ei wrthod. Un o'r rhesymau dros archwiliad meddygol o bosib fydd gweld a ydych chi'n derbyn y budd-dal llawn y mae gennych yr hawl iddo.

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am y Lwfans Gweini yn y lle cyntaf, anfonir ffurflen gais atoch i'w llenwi. Asesir eich ffurflen gais gyflawn gan y penderfynwr, a rhaid iddo benderfynu a ddylid cymeradwyo'ch cais, ac os felly, a oes gennych chi'r hawl i gael y Lwfans Gweini ar y gyfradd uchaf neu ar y gyfradd isaf.

Mae'n bosib y bydd penderfynwyr yn gofyn am archwiliad meddygol os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt cyn gwneud penderfyniad, neu os ydynt yn ansicr ynghylch unrhyw fanylion.

Os ydych yn angheuol wael

Os oes gennych salwch angheuol ac nad oes disgwyl i chi fyw'n hwy na chwe mis, mae yna reolau arbennig i'ch helpu i gael eich budd-dal yn sydyn ac yn rhwydd. Mae'n annhebygol iawn y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol.

Archwiliadau meddygol pan fyddwch eisoes yn derbyn y Lwfans Gweini

Os cawsoch chi'r Lwfans Gweini am gyfnod penodol, rhaid i chi wneud cais arall am adnewyddu eich budd-dal ychydig cyn i'ch hawl ddod i ben. Gelwir hyn yn 'gais adnewyddu'. Ymdrinnir â cheisiadau adnewyddu yn yr un ffordd yn union â hawliadau newydd, felly, mae'n bosib y gofynnir i chi ddod am archwiliad meddygol.

Eich hawliau mewn archwiliad meddygol

Fel arfer, cynhelir yr archwiliad meddygol yn eich cartref chi'ch hun (neu yn lle bynnag y byddwch chi'n byw) ar adeg sy'n gyfleus i chi. Mae'n bosib hefyd y caiff ei gynnal mewn Canolfan Archwiliadau Meddygol yn eich ardal chi. Fe ddylech gael saith niwrnod o rybudd cyn yr archwiliad, ond fe allech ofyn am apwyntiad cyn hynny petai'n well gennych.

Os collwch chi'ch apwyntiad cyntaf, rhaid i'r meddyg roi ail gynnig ar ymweld â chi. Os collwch chi ddau apwyntiad, neu os gwrthodwch chi ddod yno, mae'n bosib y gwrthodir eich cais am fudd-dal.

Mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • cael ffrind, perthynas neu weithiwr cefnogi gyda chi yn yr archwiliad meddygol
  • gofyn am gyfieithydd os oes angen
  • gofyn am gael archwiliad gan feddyg o'r un rhyw â chi

Rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaethau Meddygol ymlaen llaw os ydych chi'n dymuno cael cyfieithydd neu feddyg o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosib mewn rhai ardaloedd.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU