Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Archwiliadau meddygol Lwfans Gweini - beth i'w ddisgwyl a sut i baratoi

Pwrpas archwiliad meddygol ar gyfer eich Lwfans Gweini yw cael darlun cyffredinol o sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio arnoch dros gyfnod o amser. Nid cipolwg o'ch iechyd ar ddiwrnod eich apwyntiad mohono.

Mae'n bwysig dweud wrth y meddyg os bydd eich cyflwr yn newid o dro i dro ac ai diwrnod da ynteu ddiwrnod gwael yw'r diwrnod hwnnw.

Cyn eich archwiliad meddygol, mae'n beth da meddwl sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich bywyd beunyddiol. Efallai yr hoffech feddwl am y pethau hyn:

  • faint o help y mae ei angen arnoch yn ystod y dydd ac yn ystod y nos
  • os gallwch chi wneud mwy ar rai diwrnodau nag ar ddiwrnodau eraill, sut fyddech chi'n disgrifio'ch diwrnod arferol

Pa bethau y bydd angen i chi fynd gyda chi

Bydd y meddyg am wneud yn siŵr pwy ydych chi cyn dechrau'r archwiliad, er mwyn cadarnhau mai chi yw'r person y maen nhw i fod i'w weld.

Bydd eich pasport, os oes gennych un, yn ddogfen ddigonol ar ei phen ei hun – neu fe ofynnir i chi ddangos tair dogfen, er enghraifft, eich tystysgrif geni, trwydded yrru lawn, eich polisi aswiriant bywyd a chyfriflenni banc.

Yn ystod eich archwiliad meddygol, mae'n bosib y cewch chi brawf golwg neu brawf clyw, os yw hyn yn berthnasol i'ch anabledd. Mae'n bosib y bydd y meddyg am eich gweld yn defnyddio unrhyw gymhorthion y byddech chi fel arfer yn eu defnyddio.

Beth fydd yn digwydd yn yr archwiliad meddygol

Hyd

Fel canllaw bras, fe ddylech ganiatáu oddeutu awr ar gyfer eich archwiliad. Weithiau, fe ellir cyflawni archwiliadau meddygol mewn llai o amser o lawer, yn enwedig os dim ond ar un broblem benodol y bydd y meddyg yn edrych.

Y cyfweliad

Bydd y meddyg yn eich holi am y math o gymorth y mae ei angen arnoch yn ystod y dydd a'r nos. Mae'n bwysig rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch chi i'r meddyg. Os bydd rhywun arall yn dod i'r archwiliad meddygol gyda chi i fod yn gefn i chi, mae'n bosib y bydd y meddyg yn gofyn am eich caniatâd i holi'r person hwnnw ar wahân.

Bydd y meddyg yn ysgrifennu datganiad i gofnodi'r hyn a ddywedasoch yn y cyfweliad. Bydd y wybodaeth hon yn rhoi darlun cliriach o'ch anghenion i'r penderfynwr.

Yr archwiliad corfforol

Mae'n bosib y bydd y meddyg yn penderfynu y byddai archwiliad corfforol yn ddefnyddiol. Dylent wastad esbonio beth fydd hyn yn ei olygu yn gyntaf a gwneud yn siŵr eich bod yn fodlon i'r archwiliad fynd rhagddo. Mae'n bwysig dweud wrth y meddyg os byddwch chi'n teimlo unrhyw boen. Ni fyddant yn gofyn i chi wneud dim byd sy'n peri poen neu annifyrrwch i chi.

Adroddiad y meddyg

Bydd y meddyg yn ysgrifennu adroddiad am ei gasgliadau ar sail yr archwiliad ac yn ei ddychwelyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Fel arfer, ysgrifennir yr adroddiad hwn ar ôl yr archwiliad, ac ni fyddwch yn ei weld cyn iddo gael ei gyflwyno i'r sawl sy'n gwneud penderfyniad.

Gallwch ofyn am gopi o adroddiad y meddyg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddan nhw'n ei anfon atoch drwy'r post.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU