Bydd hyn yn dibynnu ar ba fudd-dal yr ydych yn ei hawlio - ac a ydy'ch hawliad wedi cychwyn neu beidio.
Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth dros y ffôn ydy'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau y gallwch ei ffonio os ydych chi'n wael neu'n anabl neu'n gofalu am rywun ac yn gweithredu ar eu rhan.
Rhif ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.
Mae’r llinell ar agor rhwng 8.30am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.
Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau yn rhoi cyngor cyffredinol am fudd-daliadau. Dylai ymholiadau ynghylch hawliad penodol am fudd-dal gael eu cyfeirio at y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad.
Gallwch gael cyngor am hawliadau Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini gan Linell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini, a ddylai fod yn gallu cael gafael ar eich cofnodion.
Rhif ffôn: 08457 123 456
Ffôn testun: 08457 22 44 33
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.
Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost:DCPU.Customer-Services@dwp.gsi.gov.uk
Esbonio penderfyniad ynghylch budd-dal
Os ydych am i rywun esbonio penderfyniad sy'n ymwneud â'ch hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Lwfans Gweini, gallwch hefyd cysylltu â Llinell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini. Bydd y staff yn eich helpu i ddeall y rhesymau pam y gwnaethpwyd y penderfyniad.
Os ydych yn hawlio Lwfans Gofalwr, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr.
Os ydych yn ystyried hawlio, cysylltwch â'ch canolfan gwaith leol neu swyddfa'ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd, cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeiriad a’r rhif ffôn ar lythyron a dderbyniwch gan y swyddfa.