Budd-dal di-dreth yw’r Lwfans Byw i’r Anabl a elwir weithiau'n DLA. Fe'i rhoddir ar gyfer plant ac oedolion sydd angen cymorth gyda gofal personol neu sy'n cael trafferth cerdded oherwydd eu bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.
Canllaw yn unig yw'r wybodaeth yn yr adran hon. Gall y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hawlio a chael y Lwfans Byw i’r Anabl.
Ar 18 Hydref 2007, dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop ynghylch a ddylid talu Lwfans Byw i'r Anabl (elfen gofal yn unig), Lwfans Gweini a Lwfans Gofalwr i bobl sy'n symud i fyw o'r DU i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop.
Nid yw'n glir eto beth fydd hyn yn ei olygu i bobl sy'n cael y budd-daliadau sydd dan sylw. Disgwyliwn ddarparu manylion llawn y meini prawf cymhwysedd erbyn 5 Ebrill 2008. Dylai'r taliadau cyntaf gael eu gwneud i gwsmeriaid cymwys yn fuan ar ôl hynny.
Mae'n bosib y cewch chi Lwfans Byw i’r Anabl:
Os ydych dros 65 oed, efallai y gallwch gael Lwfans Gweini.
Gallwch gael Lwfans Byw i’r Anabl os ydych yn gweithio neu beidio.
Fel arfer nid effeithir arno gan unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Os oes gennych glefyd cynyddol ac na ddisgwylir i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig ar gyfer hawlio i sicrhau eich bod yn cael eich budd-dal yn gynt ac yn rhwydd.
Fel arfer ni fydd angen archwiliad meddygol arnoch pan fyddwch yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl. Os gofynnir i chi gael archwiliad, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae dwy ran i'r Lwfans Byw i’r Anabl a elwir yn ‘elfennau’:
Dim ond un elfen y bydd gan rai pobl yr hawl iddi tra bydd gan bobl eraill yr hawl i'r ddwy elfen.
Telir yr elfen ofal a’r elfen symudedd ar wahanol gyfraddau yn dibynnu ar sut y mae'r anabledd yn effeithio arnoch.
Fel arfer mae'r Lwfans Byw i’r Anabl yn cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn fanc, yn gymdeithas adeiladu neu'n ddarparwr cyfrif arall.
Efallai y gall rhywun arall fynd i gasglu'ch Lwfans Byw i'r Anabl ar eich rhan os dymunwch. I gael cymorth gyda hyn, cysylltwch â banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrif arall.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich talu drwy ffyrdd eraill, cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad - ceir manylion yn yr adran 'Cyfraddau a sut i hawlio'.
Os byddwch chi'n dechrau cael Lwfans Byw i'r Anabl, efallai y bydd yn cynyddu'r budd-daliadau neu’r credydau eraill y mae gennych chi'r hawl i'w cael, megis Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Gyngor, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.
Fel arfer mae'r Lwfans Byw i’r Anabl yn cael ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo'r credyd a'r budd-daliadau hyn sy'n gysylltiedig ag incwm.
Hawliwch yn syth – os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli'r budd-dal.
Gallwch hawlio ar-lein neu gallwch gael pecyn hawlio drwy:
I gael y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr, neu gael eich trin fel petaech yn byw yma, a bodloni rhai amodau eraill o ran preswyliaeth a phresenoldeb.
Hefyd, gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar eich cymhwysedd i gael Lwfans Byw i'r Anabl, neu'r swm yr ydych yn ei gael. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cyfnod mewn ysbyty neu os bydd eich anabledd yn gwella neu’n gwaethygu.
Gellir llwytho ffilm fer - sy'n cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain, ac sy'n cynnwys sylwebaeth ac is-deitlau - oddi ar wefan Directgov. Mae'r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy'r post.