Efallai y bydd modd i chi gael y Lwfans Byw i'r Anabl os ydych chi dan 65 oed a'ch bod wedi gorfod cael cymorth gyda gofal personol neu wedi cael anawsterau cerdded oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol am dri mis a'ch bod yn debygol o fod angen y cymorth hwn neu gael yr anawsterau hyn am o leiaf chwe mis arall.
Os ydych eisoes yn cael Lwfans Byw i'r Anabl pan gyrhaeddwch 65 oed, gall barhau os oes gennych anghenion gofal a/neu symudedd o hyd
Mae'n rhaid bod angen llawer mwy o gymorth neu oruchwyliaeth ar eich plentyn nag ar blant eraill o'r un oed.
Gallwch hawlio am anghenion gofal cyn i blentyn gyrraedd tri mis oed, ond ni chaiff budd-dal ei dalu nes i'r plentyn gyrraedd tri mis oed oni chaiff ei dalu dan 'reolau arbennig' (gweler isod).
Gallwch hawlio am anghenion symudedd pan fydd eich plentyn:
I gael elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol fel bo angen y canlynol arnoch:
Mae tair cyfradd i'r elfen ofal yn dibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:
Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich anghenion gofal, hyd yn oed pan nad oes rhywun yn rhoi'r gofal yr ydych ei angen i chi, hyd yn oed os ydych yn byw ar eich pen eich hun.
I gael elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol i chi fod â'r anawsterau cerdded canlynol, hyd yn oed pan fyddwch yn gwisgo neu'n defnyddio cymorth neu gyfarpar yr ydych yn ei ddefnyddio fel arfer:
Mae dwy gyfradd i'r elfen symudedd yn dibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:
Dim ond i'r elfen ofal neu i'r elfen symudedd y bydd gan rai pobl hawl iddi, bydd gan eraill hawl i'r ddwy.
Os oes gennych glefyd cynyddol ac na ddisgwylir yn rhesymol i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig i'ch helpu i gael y Lwfans Byw i'r Anabl yn gynt ac yn rhwydd. Gallwch gael cyfradd uchaf yr elfen ofal yn syth heb orfod aros nes bod angen help arnoch ers tri mis.
Gallwch wneud cais ar ran rhywun dan y rheolau arbennig heb iddynt hwy wybod neu heb eu caniatâd. Os byddant yn bodloni'r amodau perthnasol, byddant yn cael llythyr yn dweud y cânt y Lwfans Byw i'r Anabl, ond ni fydd yn sôn am y rheolau arbennig.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ofalu am rywun sy'n derfynol wael yn yr adran 'gofalu am rywun'.
Mae gwybodaeth ychwanegol am fod ym Mhrydain Fawr, neu am gael eich trin fel petaech yn byw yma, ac amodau eraill am eich preswyliaeth a'ch presenoldeb y bydd angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Byw i'r Anabl.
Mae gwybodaeth ychwanegol hefyd am sut y gallai newid yn eich amgylchiadau effeithio ar eich Lwfans Byw i'r Anabl.