Telir Lwfans Byw i'r Anabl ar wahanol gyfraddau yn dibynnu ar sut mae'r anabledd yn effeithio arnoch. Gallwch gael pecyn hawlio mewn sawl ffordd. Gallwch hefyd hawlio ar-lein.
Mae dwy ran i'r Lwfans Byw i'r Anabl - yr elfen ofal a'r elfen symudedd. Efallai mai dim ond un elfen a gewch - neu efallai y bydd modd i chi gael y ddwy.
|
Elfen gofal |
Cyfradd wythnosol |
|---|---|
|
Cyfradd uwch |
£67.00 |
|
Cyfradd canol |
£44.85 |
|
Cyfradd is |
£17.75 |
|
Elfen symudedd |
Cyfradd wythnosol |
|---|---|
|
Cyfradd uwch |
£46.75 |
|
Cyfradd is |
£17.75 |
Bydd eich amgylchiadau unigol yn effeithio ar y swm a gewch. Mae'r pecyn hawlio'n rhoi rhai enghreifftiau o wahanol lefelau o anghenion gofal a symudedd.
Hawliwch yn syth – os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli'r budd-dal.
Gallwch hawlio ar-lein neu gael pecyn hawlio drwy:
Ceir dwy ffurflen – un os ydych chi'n hawlio ar gyfer rhywun 16 oed neu hŷn ac un arall os ydych chi'n hawlio ar gyfer rhywun o dan 16.
Ym mis Ebrill 2007 cyflwynwyd ffurflen newydd ar gyfer hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (oedolion). Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r fersiwn ar-lein – fe fydd ar gael mor fuan â phosib.
Yn y cyfamser, mae'n dal yn bosib i chi hawlio ar-lein neu fe allwch lwytho'r ffurflen hawlio newydd oddi ar y dudalen hon.
I wneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Gwasanaeth rhadffôn cyfrinachol yw hwn i bobl anabl a gofalwyr. Gallwch ffonio'r Llinell Ymholiadau a gofyn iddynt anfon pecyn hawlio atoch. Gallant anfon y pecyn hawlio atoch mewn fformat gwahanol os oes angen – er enghraifft, mewn Braille.
Gallant hefyd drefnu i rywun eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen. Cofiwch, efallai y bydd y person ar ochr arall y ffôn yn gorfod trefnu i rywun eich ffonio'n ôl.
Rhif ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.
Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.
Os byddwch yn gofyn am ffurflen gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau, bydd dyddiad eich cais yn cael ei drin fel eich dyddiad hawlio, sef o pryd y gall y Lwfans Byw i'r Anabl gael ei dalu, ar yr amod bod y ffurflen y byddwch yn ei derbyn yn cael ei dychwelyd o fewn chwe wythnos i'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn oedi gyda hawlio'r lwfans, efallai y byddwch yn colli arian.
Ni fydd eich papurau personol gan y person ar ochr arall y ffôn ond bydd yn gallu rhoi cyngor cyffredinol i chi. Ni ddylid cymryd y cyngor hwn fel penderfyniad am eich hawliad.
Os byddwch yn gofyn am ffurflen gan eich Canolfan Byd Gwaith yn lleol neu'r swyddfa nawdd cymdeithasol leol, bydd dyddiad eich cais am y ffurflen yn cael ei drin fel eich dyddiad hawlio, sef o pryd y gall y Lwfans Byw i'r Anabl gael ei dalu, dim ond bod y ffurflen y byddwch yn ei derbyn yn cael ei dychwelyd o fewn chwe wythnos i'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn oedi gyda hawlio'r lwfans, efallai y byddwch yn colli arian.
Gallwch hefyd lwytho ffurflen i'w hargraffu oddi ar y we a'i llenwi â beiro. Mae nodiadau'n dod gyda phob ffurflen a fydd yn eich helpu i'w llenwi ac yn dweud wrthych at bwy i'w hanfon. Yn y naill achos neu'r llall, dyddiad yr hawliad fydd y dyddiad pan dderbynnir y ffurflen gan eich swyddfa leol.
Gallwch lenwi ffurflen hawlio ar eich cyfrifiadur. Awgrymwn eich bod yn cadw'r ffurflen ar eich cyfrifiadur cyn ei llenwi: y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw clicio botwm de'r llygoden ar y ddolen isod a dewis yr opsiwn 'Cadw'r targed dan yr enw' ('Save Target As'). (Allwch chi ddim cadw'r ffurflen unwaith i chi ei hagor mewn porydd rhyngrwyd.)
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch ei hargraffu a'i llofnodi. Sylwch nad yw'r ffurflenni ar-y-sgrîn ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Os byddwch yn cael problemau technegol, er enghraifft, llwytho'r ffurflen, llywio o gwmpas y ffurflen ac argraffu copi caled - cysylltwch â'r ddesg gymorth eWasanaeth:
Rhif ffôn: 0845 601 80 40
Ffôn testun: 0845 601 80 39
E-bost: eservicehelpdesk@dwp.gsi.gov.uk
Mae'r ddesg gymorth eWasanaeth ar agor rhwng 8.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Codir y gyfradd leol am bob galwad.
Unwaith i chi wneud eich hawliad, gallwch gael cyngor am y Lwfans Byw i'r Anabl gan linell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a ddylai allu cael gafael ar eich cofnodion.
Rhif ffôn: 08457 123 456
Ffôn testun: 08457 22 44 33
Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost: DCPU.Customer-Services@dwp.gsi.gov.uk
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk RNID.
Fel arfer bydd yn cymryd oddeutu 39 diwrnod gwaith i ddelio gyda hawliad newydd, oni wneir yr hawliad o dan y rheolau arbennig, ac os felly, bydd yn cael sylw'n llawer cynt.
Os bydd eich hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl yn llwyddiannus, efallai y bydd rhagor o arian yn cael ei dalu gyda'r canlynol:
Os oes rhywun yn cael Lwfans Gofalwr am ddarparu gofal i chi, efallai na fyddwch yn cael swm ychwanegol am anabledd difrifol gyda'r budd-daliadau a'r credydau hyn.
Am ragor o wybodaeth, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad am y budd-dal neu'r credyd dan sylw, neu gysylltu â'r llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl.
Mae'r wybodaeth hon a chyngor am y Lwfans Gofalwr i'w cael mewn taflen y gellir ei llwytho oddi ar y we drwy'r ddolen isod. Gallwch ei hargraffu a'i rhoi i'ch gofalwr, os oes gennych ofalwr.
Os byddwch chi'n meddwl bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio. Gallwch ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gan amlaf, fe allwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd y cafodd eich hawliad am fudd-dal ei drin a/neu'r gwasanaeth a gawsoch, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.