Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am fod ym Mhrydain Fawr, neu am gael eich trin fel petaech yn byw yma, ac amodau eraill am eich preswyliaeth a'ch presenoldeb y bydd angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Byw i'r Anabl.
I gael y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr, neu gael eich trin fel petaech yn byw yma, a bodloni rhai amodau eraill o ran preswyliaeth a phresenoldeb.
Rhaid:
Mewn rhai achosion, gellir trin cyfnod a dreuliwyd yn un o wledydd eraill Ardal Economaidd Ewrop fel cyfnod ym Mhrydain Fawr at ddibenion y rheol 26 wythnos.
Gellir eich trin fel rhywun sy'n byw ym Mhrydain Fawr:
Os ydych chi’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl ac yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu i’r Swistir, efallai y gallwch barhau i’w dderbyn o dan amgylchiadau penodol.
Newid mewn amgylchiadau
Gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Byw i'r Anabl, neu ar y swm yr ydych yn ei gael. Mae hyn yn cynnwys newid i'ch anghenion gofal neu symudedd, os cewch eich derbyn i ysbyty'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu gartref gofal neu ysbyty annibynnol neu os ewch chi dramor i fyw neu i ymweld. Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch taliadau.
Eich anabledd neu eich cyflwr meddygol
Mae newid mewn amgylchiadau yn golygu pan fydd arnoch chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, angen llai o gymorth gyda gofal personol neu oruchwyliaeth, neu'n cael llai o drafferth cerdded, oherwydd bod eich cyflwr wedi gwella neu fod gennych gyfarpar arbennig i'ch helpu. Os bydd eich cyflwr chi, neu gyflwr y sawl yr ydych yn gofalu amdano/i, yn gwaethygu a bod angen mwy o gymorth arnoch neu os ydych yn cael mwy o broblemau cerdded, gallai hyn olygu y gallwch chi, neu'r person anabl, gael mwy o arian.
Ysbyty Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, yn mynd i ysbyty'r GIG neu'n gadael yr ysbyty, mae hyn yn cael ei ystyried yn newid mewn amgylchiadau.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, yn mynd i ysbyty annibynnol neu gartref gofal neu'n eu gadael, mae'n cael ei ystyried yn newid mewn amgylchiadau.
Os ydych yn bwriadu mynd i fyw dramor yn barhaol, ni allwch gael Lwfans Byw i'r Anabl fel arfer. Ond, os dechreusoch gael y Lwfans Byw i'r Anabl cyn 1 Mehefin 1992, efallai y bydd yn dal yn bosib i chi ei gael os byddwch yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop.
Os ydych yn ymweld â gwlad dramor dros dro, efallai y gallwch barhau i gael Lwfans Byw i'r Anabl: