Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gweini - pwy all ei hawlio

Efallai y cewch chi Lwfans Gweini os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn ac wedi bod angen cymorth gyda gofal personol oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol am chwe mis.

Eich anghenion gofal

I gael Lwfans Gweini, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol i chi fod angen y canlynol:

  • cymorth gyda phethau megis ymolchi (a mynd i mewn ac allan o'r baddon neu'r gawod), gwisgo, bwyta, mynd i'r toiled a'i ddefnyddio, neu gyfathrebu eich anghenion, neu
  • goruchwyliaeth fel nad ydych chi'n rhoi eich hun neu eraill mewn perygl sylweddol, er enghraifft, angen rhywun i gadw golwg ar eich deiet neu eich cyflwr meddygol, neu
  • rhywun gyda chi pan fyddwch ar ddialysis

Mae dwy gyfradd i'r Lwfans Gweini yn dibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:

  • y gyfradd is, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch yn aml yn ystod y dydd yn unig neu yn ystod y nos yn unig, neu rywun gyda chi pan fyddwch ar ddialysis
  • y gyfradd uwch, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch yn aml drwy gydol y dydd ac yn ystod y nos

Gallwch gael Lwfans Gweini hyd yn oed pan nad oes rhywun yn rhoi'r gofal sydd ei angen arnoch i chi - hyd yn oed os ydych yn byw ar eich pen eich hun.

Rheolau arbennig - os nad oes gwella arnoch

Os oes gennych glefyd cynyddol ac na ddisgwylir yn rhesymol i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig i'ch helpu i gael y Lwfans Gweini yn gynt ac yn rhwydd. Gallwch gael y gyfradd uwch yn syth heb orfod aros hyd nes bo angen help arnoch ers tri mis.

Gallwch wneud cais ar ran rhywun dan y rheolau arbennig heb iddynt hwy wybod a heb eu caniatâd. Os byddant yn bodloni'r amodau perthnasol, byddant yn cael llythyr yn dweud y byddant yn derbyn y Lwfans Gweini, ond ni fydd unrhyw sôn yn y llythyr am reolau arbennig.

Gallwch cael gwybod mwy ynghylch gofalu am rywun sydd ag afiechyd marwol yn yr adran 'gofalu am rywun'. 

Eich amgylchiadau

Mae amodau ynghylch bod ym Mhrydain Fawr, ac amodau eraill am eich preswyliaeth a'ch presenoldeb y bydd angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Gweini.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, gallai hyn effeithio ar eich Lwfans Gweini.

Allweddumynediad llywodraeth y DU