Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Gweini - cyfraddau a sut i hawlio

Mae Lwfans Gweini'n cael ei dalu ar ddwy gyfradd yn dibynnu ar sut y mae'r anabledd yn effeithio arnoch. Mae'r pecyn hawlio yn rhoi rhai enghreifftiau o wahanol lefelau o anghenion gofal. Gallwch hawlio'r Lwfans Gweini ar-lein.

Lwfans Gweini Cyfradd wythnosol
Cyfradd uwch £67.00
Cyfradd is £44.85

Sut i hawlio

Hawliwch yn syth - os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli budd-dal.

Gallwch gael pecyn hawlio drwy:

  • ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau
  • drwy lwytho'r ffurflen i lawr oddi ar y dudalen hon

Hawlio ar-lein

I hawlio Lwfans Gweini ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau

Gwasanaeth rhadffôn cyfrinachol yw hwn i bobl anabl a gofalwyr. Gallwch ffonio'r Llinell Ymholiadau a gofyn iddynt anfon pecyn hawlio atoch. Gallant anfon y pecyn hawlio atoch mewn fformat gwahanol os oes angen - er enghraifft, mewn Braille.

Gallant hefyd drefnu i rywun eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen. Cofiwch, efallai y bydd y person ar ochr arall y ffôn yn gorfod trefnu i rywun eich ffonio'n ôl.

Ffôn: 0800 88 22 00

Ffôn testun: 0800 24 33 55

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Byddar (RNID).

Mae'r llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor rhwng 8.30am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Os gofynnwch am becyn hawlio gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau bydd dyddiad eich galwad ffôn yn cael ei drin fel eich dyddiad hawlio, sef o pryd y gall y Lwfans Gweini gael ei dalu, dim ond eich bod yn anfon y ffurflen yn ôl o fewn chwe wythnos i'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn oedi gyda hawlio'r lwfans, efallai y byddwch yn colli arian.

Ni fydd eich papurau personol gan y person ar ochr arall y ffôn ond bydd yn gallu rhoi cyngor cyffredinol i chi. Ni ddylid cymryd y cyngor hwn fel penderfyniad am eich hawliad.

Llwytho ffurflen hawlio oddi ar y we i'w hargraffu gartref

Gallwch hefyd lwytho ffurflen hawlio oddi ar y we, ei hargraffu â'i llenwi gyda beiro neu lenwi'r ffurflen ar eich cyfrifiadur a'i hargraffu wedyn. Mae nodiadau gyda'r ffurflen a fydd yn eich helpu i'w llenwi ac yn dweud wrthych ble i'w hanfon. Dyddiad eich hawliad fydd y diwrnod pan fyddwn yn cael eich ffurflen yn ôl.

Os byddwch yn llenwi'r ffurflen ar eich cyfrifiadur, awgrymwn eich bod yn cadw'r ffurflen ar eich cyfrifiadur cyn ei llenwi: i wneud hyn cliciwch fotwm de'r llygoden ar y ddolen isod a dewis yr opsiwn 'Save Target As'. Allwch chi ddim cadw'r ffurflen unwaith y byddwch wedi'i hagor mewn porydd rhyngrwyd.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch ei hargraffu a'i llofnodi.

Os byddwch yn cael problemau technegol gyda'r ffurflen hawlio

Os byddwch yn cael problemau technegol - er enghraifft, llwytho'r ffurflen, llywio o gwmpas y ffurflen ac argraffu copi caled - cysylltwch â'r ddesg gymorth eWasanaeth:

Ffôn: 0845 601 80 40

Ffôn testun: 0845 601 80 39

E-bost: eservicehelpdesk@dwp.gsi.gov.uk

Mae'r ddesg gymorth eWasanaeth ar agor rhwng 8.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Unwaith i chi wneud eich hawliad

Unwaith i chi wneud eich hawliad, gallwch gael cyngor am y Lwfans Gweini gan linell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl/Lwfans Gweini a ddylai fod yn gallu cael gafael ar eich cofnodion.

Ffôn: 08457 123 456

Ffôn testun: 08457 22 44 33

Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

E-bost: DBU-Customer-Service@dwp.gsi.gov.uk

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Typetalk y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Byddar (RNID).

Fel arfer bydd yn cymryd oddeutu 22 diwrnod gwaith i ddelio gyda'ch hawliad, oni wneir yr hawliad o dan y rheolau arbennig, ac os felly, bydd yn cael sylw'n llawer cynt.

Yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Os bydd eich hawliad am Lwfans Gweini'n llwyddiannus, efallai y cewch ragor o arian am anabledd difrifol a delir fel rhan o'r canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Gyngor

Os oes rhywun yn hawlio Lwfans Gofalwr am ofalu amdanoch ac yn ei gael, efallai na fyddwch yn gallu derbyn y swm ychwanegol hwn.

Mae'r wybodaeth hon a chyngor am y Lwfans Gofalwr i'w cael mewn taflen y gellir ei llwytho oddi ar y we drwy'r ddolen isod.

Am ragor o wybodaeth, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad neu gysylltu â'r llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl/Lwfans Gweini.

Y cynllun Ffrynt Cynnes

Os ydych yn derbyn Lwfans Gweini ac yn byw yn Lloegr, gallwch gael grant gan y cynllun Ffrynt Cynnes i'ch helpu gyda chostau inswleiddio a gwelliannau gwresogi eraill.

Os ydych chi'n teimlo bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir

Os byddwch chi'n meddwl bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio. Gallwch ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gan amlaf, fe allwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os na fyddwch chi'n hapus â'r gwasanaeth a dderbyniasoch

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd y cafodd eich hawliad am fudd-dal ei drin a/neu'r gwasanaeth a gawsoch, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.

Additional links

Taflen y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr

Llwytho taflen wybodaeth am y gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr mewn fformat PDF

Allweddumynediad llywodraeth y DU