Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am fod ym Mhrydain Fawr, neu am gael eich trin fel petaech yn byw yma, ac amodau eraill am eich preswyliaeth a'ch presenoldeb y bydd angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Gweini.
I gael y Lwfans Gweini, fel arfer rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr, neu gael eich trin fel petaech yn byw yma, a bodloni rhai amodau eraill o ran preswyliaeth a phresenoldeb.
Rhaid i chi:
Mewn rhai achosion, gellir trin cyfnod a dreuliwyd yn un o wledydd arall Ardal Economaidd Ewrop fel cyfnod ym Mhrydain Fawr at ddibenion y rheol 26 wythnos.
Gellir eich trin fel rhywun sy'n byw ym Mhrydain Fawr:
Os ydych chi’n derbyn Lwfans Gweini ac yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu i’r Swistir, efallai y gallwch barhau i’w dderbyn o dan amgylchiadau penodol.
Gellir eich trin fel rhywun sy'n byw ym Mhrydain Fawr:
Gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar eich cymhwysedd i gael Lwfans Gweini, neu'r swm yr ydych yn ei gael. Mae hyn yn cynnwys newid i'ch anghenion gofal, os cewch eich derbyn i ysbyty'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu gartref gofal neu ysbyty annibynnol neu os ewch chi dramor i fyw neu i ymweld.
Mae'n bwysig cysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch taliadau.
Mae newid mewn amgylchiadau'n golygu pan fyddwch chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i angen llai o gymorth gyda gofal personol neu oruchwyliaeth, oherwydd bod eich cyflwr wedi gwella neu fod gennych gyfarpar arbennig i'ch helpu. Os bydd eich cyflwr chi, neu gyflwr y sawl yr ydych yn gofalu amdano/i, yn gwaethygu a bod angen mwy o gymorth arnoch, gallai hyn olygu y gallwch chi, neu'r person anabl, gael mwy o arian.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn hawlio drosto/i, yn mynd i ysbyty'r GIG neu'n gadael yr ysbyty, mae hyn yn cael ei ystyried yn newid mewn amgylchiadau.
Os byddwch yn aros mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn barhaol neu dros dro, gall hynny effeithio ar eich Lwfans Gweini.
Os ydych yn bwriadu mynd i fyw dramor yn barhaol, ni allwch gael Lwfans Gweini fel arfer. Os ydych chi eisoes yn derbyn y Lwfans Gweini ac yn gadael y DU i fyw mewn wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu’r Swistir, efallai y gallwch barhau i’w dderbyn o dan amgylchiadau penodol.
Os ydych yn ymweld â gwlad dramor dros-dro, efallai y gallwch barhau i gael Lwfans Gweini:
os yw eich absenoldeb dim ond er mwyn cael triniaeth feddygol am gyflwr a ddechreuodd cyn i chi adael Prydain Fawr