Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliadau uniongyrchol - trefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun

Gwneir taliadau uniongyrchol gan y cyngor i bobl sy'n cael gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn hytrach na'r cyngor yn darparu'r gwasanaeth yn uniongyrchol. Yma gallwch ddod i wybod a allwch gael taliadau uniongyrchol, beth gewch chi ac na chewch chi eu defnyddio ar eu cyfer, a sut i wneud cais amdanynt.yfer, a sut i wneud cais amdanynt.  

Cael gwybod am daliadau uniongyrchol  

Taliadau gan y cyngor lleol yw taliadau uniongyrchol. Mae'r rhain ar gyfer pobl yr aseswyd bod angen cymorth y gwasanaethau cymdeithasol arnynt, a'u bod yn dymuno trefnu a thalu am eu gwasanaethau gofal a chymorth eu hunain yn hytrach na'u cael yn uniongyrchol gan y cyngor lleol.

Rhaid i berson allu rhoi ei ganiatâd i gael taliadau uniongyrchol a gallu'u rheoli hyd yn oed os oes angen help arnynt i wneud hyn o ddydd i ddydd.

Cymhwysedd

Os ydych eisoes yn cael gwasanaethau cymdeithasol

Rhaid i'ch cyngor lleol roi'r dewis i chi i gael taliadau uniongyrchol yn lle'r gwasanaethau yr ydych yn eu cael ar hyn o bryd. Dan rai amgylchiadau prin, ni fydd y dewis hwn ar gael i chi. Cewch wybod am y rhain gan eich cyngor lleol.

Os nad ydych yn cael gwasanaethau cymdeithasol

Er mwyn cael taliadau uniongyrchol, bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol i ofyn iddynt asesu'ch anghenion. Mae gwasanaethau cymdeithasol - ac felly taliadau uniongyrchol - ar gael i chi fel arfer os ydych chi:

  • yn anabl ac yn 16 oed neu’n hŷn
  • yn ofalwr sy'n 16 oed neu'n hŷn, gan gynnwys pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl
  • yn berson hŷn

Os gwrthodwyd gwasanaethau cymdeithasol i chi

Os yw'ch cyngor lleol wedi penderfynu nad oes angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnoch, ni fydd yn cynnig taliadau uniongyrchol i chi. Os ydych o'r farn bod eich anghenion neu eich amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, gofynnwch i'ch cyngor eich asesu o'r newydd.

Faint allwch chi ei gael

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar yr asesiad a wneir o'ch anghenion gan eich cyngor.

Sut y caiff ei dalu

Gwneir y taliadau uniongyrchol yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.

Os bydd angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, neu os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, gellir gwneud y taliad trwy anfon siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.

Sut mae gwneud cais am daliadau uniongyrchol

Os ydych eisoes yn cael gwasanaethau, gofynnwch i'ch cyngor lleol am daliadau uniongyrchol.

Os ydych yn gwneud cais am wasanaethau am y tro cyntaf, dylai eich gweithiwr cymdeithasol drafod yr opsiwn taliadau uniongyrchol gyda chi pan fyddant yn asesu'ch anghenion gofal.

Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth neu wneud cais ar-lein. Nodwch mai dim ond ar gyfer cynghorau yn Lloegr y mae'r gwasanaeth hwn ar gael.

Beth allwch chi ei wneud gyda thaliadau uniongyrchol

Gallwch ddefnyddio'r arian i dalu am y gwasanaethau a'r cyfarpar a fydd yn diwallu'ch anghenion yn unol ag asesiad y cyngor lleol ohonynt.

Fel egwyddor gyffredinol, dylai cynghorau adael i chi ddewis y ffordd orau o ddiwallu'ch anghenion fel y'u haseswyd, gyhyd â'u bod yn fodlon bod y gefnogaeth i'r trefniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu darparu

Beth na allwch chi ei wneud gyda thaliadau uniongyrchol

Ni allwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am lety preswyl parhaol - ond efallai y gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer cyfnodau byr achlysurol mewn llety preswyl, os yw'ch cyngor yn cytuno mai dyna sydd ei angen arnoch.

Oni bai fod eich cyngor yn penderfynu fod amgylchiadau eithriadol yn ei gwneud hi'n angenrheidiol, ni allwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol er mwyn talu am wasanaeth gan:

  • eich priod (gŵr neu wraig)
  • eich partner sifil
  • eich partner yr ydych yn byw gydag ef/hi fel cwpwl
  • perthynas agos sy'n byw gyda chi, neu briod neu bartner y perthynas dan sylw

Cadw cofnodion

Os ydych yn cael taliadau uniongyrchol, rhaid i chi roi cyfrif am yr arian a wariwch. Bydd eich cyngor yn dweud wrthych pa gofnodion i'w cadw a pha wybodaeth y bydd disgwyl i chi ei darparu. Gwybodaeth megis taflenni amser wedi'u llofnodi gan gynorthwywyr personol, neu dderbynebau am wasanaethau gan asiantaethau.

Rhaid i'r cyngor fod yn fodlon bod yr anghenion y mae'n rhoi taliadau uniongyrchol i chi ar eu cyfer yn cael eu diwallu. Dylent hwy ddweud wrthych sut y byddant yn gwneud hyn. Gall hyn olygu ymweliad â’ch cartref.

Gofalwyr a thaliadau uniongyrchol

Os ydych chi'n ofalwr sy'n 16 neu'n hŷn, gallech chi fod yn gymwys i gael taliadau uniongyrchol i chi eich hun.

Chewch chi ddim defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau ar gyfer y person yr ydych yn gofalu amdano. Dim ond ar gyfer sicrhau'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, fel gofalwr, yn unol â'r asesiad, y gellir gwario'r taliadau uniongyrchol.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw taliadau uniongyrchol yn cael eu hystyried yn incwm ac felly nid ydynt yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu cael.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Os bydd eich anghenion gwasanaethau cymdeithasol yn newid

Os bydd eich anghenion yn newid, cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu ailasesu lefel y taliadau y mae eu hangen arnoch. Nid oes gwahaniaeth a yw'r newidiadau'n rhai cyfnod hir neu'n gyfnod byr.

Er enghraifft, os na fydd angen i chi wario'r swm llawn oherwydd bod eich cyflwr yn gwella dros dro, neu os byddwch yn cael eich anfon i'r ysbyty, efallai y bydd yn rhaid iddynt addasu eich taliadau.

Os na fyddwch am barhau gyda thaliadau uniongyrchol

Os penderfynwch nad ydych am barhau, bydd eich cyngor lleol yn trefnu gwasanaethau i chi yn lle hynny. Os bydd y cyngor yn penderfynu na allwch ymdopi gyda thaliadau uniongyrchol, efallai y bydd yn atal y taliadau uniongyrchol ac yn darparu gwasanaethau yn eu lle.

Allweddumynediad llywodraeth y DU