Mae'r dudalen hon yn cynnwys dogfennau defnyddiol ynghylch taliadau uniongyrchol - mae modd eu llwytho oddi ar y we i'w gweld. Mae gwybodaeth hefyd am sut i apelio yn erbyn penderfyniad taliadau uniongyrchol neu fethiant ar ran eich cyngor lleol.
Mae gennych chi’r dewis i gael mwy o wybodaeth mewn dau lyfryn. Mae un ohonynt yn fersiwn ‘easy read’. Gellir eu llwytho oddi ar wefan yr Adran Iechyd neu gellir eu harchebu dros y ffôn.
'Canllaw at dderbyn taliadau uniongyrchol o'ch cyngor lleol' yw enw’r llyfryn safonol.
Enw’r llyfryn ‘easy read’ yw 'Canllaw syml at dderbyn taliadau uniongyrchol’.
Os archebwch yr 'easy guide' dros y ffôn, gallwch ofyn am becyn sy'n cynnwys llyfr a thâp sain. Mae CD-ROM yng nghefn y llyfr hefyd.
I archebu copi o'r naill gyhoeddiad neu'r llall, ffoniwch llinell archebu cyhoeddiadau'r Adran Iechyd.
Ffôn: 08701 555 455
Ffôn testun: 08700 102 870
Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os oes gennych gwestiwn ar fyrder am eich sefyllfa eich hun, eich cyngor lleol yw'r lle cyntaf i holi; mae pob cyngor yn gweithredu'r broses taliadau uniongyrchol yn ei ffordd ei hun. Gallant hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth lleol.
Efallai hefyd y byddai'n ddefnyddiol i chi drafod eich sefyllfa gyda phobl anabl eraill sydd â phrofiad o ddefnyddio taliadau uniongyrchol.
Dewch i wybod am y gwahaniaeth rhwng Taliad Uniongyrchol (pensiynau a budd-daliadau a delir yn uniongyrchol i gyfrif) a thaliadau uniongyrchol (trefnu eich gwasanaethau a'ch gofal eich hun).
Os ydych yn anhapus gydag unrhyw weithred, penderfyniad neu fethiant ar ran eich cyngor lleol, gallwch ddefnyddio trefn gwyno eich cyngor lleol.
Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan asiantaeth neu ofalwr, dylech gwyno wrth yr asiantaeth neu drafod y mater gyda'r unigolyn.
Gan ddibynnu ar natur y gŵyn, gallai Arolygiaeth Safonau'r Adran Gyflogaeth ddod yn gysylltiedig â'r mater.
Ffôn: 08459 555 105
E-bost: eas@dti.gsi.gov.uk (am ymholiadau am asiantaethau'n unig)