Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Byw i'r Anabl - archwiliad meddygol

Budd-dal di-dreth yw’r Lwfans Byw i’r Anabl. Fe'i rhoddir ar gyfer plant ac oedolion sydd angen cymorth gyda gofal personol neu sy'n cael trafferth cerdded oherwydd eu bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.

Efallai y gofynnir i rai pobl sy'n gwneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl gael archwiliad meddygol. Fel arfer, gwneir hyn oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth am eich anabledd neu'ch salwch cyn y gellir gwneud penderfyniad am eich hawliad.

Beth yw archwiliad meddygol?

Mae archwiliad meddygol yn golygu cyfweliad ac weithiau archwiliad meddygol gan feddyg sydd wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol ym maes ymwybyddiaeth o anabledd a budd-daliadau.

Mae'r archwiliad meddygol yn debygol o fod yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan eich meddyg teulu eich hun. Nid bwriad archwiliad meddyg y Gwasanaethau Meddygol fydd rhoi diagnosis neu drafod sut mae trin eich cyflwr meddygol; ei bwrpas yw asesu sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi ac mae'n bosib na fydd yn rhaid i'r meddyg wneud archwiliad corfforol.

Pwy sy'n gwneud beth

Dyma'r bobl a'r sefydliadau sy'n ymwneud â phroses yr archwiliad meddygol:

  • y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr - sy'n rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau - sy'n delio â hawliadau budd-dal
  • y Gwasanaethau Meddygol, sy'n trefnu archwiliadau meddygol ar ran y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr
  • y 'penderfynwr' - person nad yw'n feddyg yn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad am eich cais am fudd-dal
  • y Meddyg Archwilio - y meddyg sy'n cynnal yr archwiliad meddygol

Pam y gofynnwyd i chi ddod am archwiliad meddygol

Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi gael archwiliad meddygol. Nid yw'n golygu bod y wybodaeth roesoch chi ar eich ffurflen gais yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich cais yn cael ei wrthod. Un o'r rhesymau dros archwiliad meddygol o bosib fydd gweld a ydych chi'n derbyn y budd-dal llawn y mae gennych yr hawl iddo.

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl yn y lle cyntaf, anfonir ffurflen gais atoch i'w llenwi. Bydd y penderfynwr yn asesu'ch cais cyflawn, a rhaid i hwnnw/honno benderfynu:

  • a ddylid cymeradwyo'ch cais
  • a oes gennych chi'r hawl i un elfen o'r budd-dal neu'r ddwy ohonynt (sef yr elfen symudedd a'r elfen ofal), a
  • faint o fudd-dal y mae gennych hawl iddo

Mae'n bosib y bydd penderfynwyr yn gofyn am archwiliad meddygol os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt cyn gwneud penderfyniad, neu os ydynt yn ansicr ynghylch unrhyw fanylion.

Gall y penderfynwr gymeradwyo'ch cais heb archwiliad meddygol os ydyn nhw'n hapus â'r wybodaeth a gafwyd.

Rheolau arbennig - os ydych yn angheuol wael

Os oes gennych glefyd cynyddol ac na ddisgwylir yn rhesymol i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, ceir rheolau arbennig i'ch helpu i gael eich budd-dal yn gyflym ac yn rhwydd. Mae'n annhebygol iawn y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol.

Archwiliadau meddygol pan fyddwch eisoes yn derbyn y Lwfans Byw i'r Anabl

Cael y swm iawn yn eich budd-dal - 'Rhaglen Taliad Cywir'

Os ydych chi eisoes yn cael y Lwfans Byw i'r Anabl, mae'n bosib y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol fel rhan o'r Rhaglen Taliad Cywir.

Dan y Rhaglen Taliad Cywir, gellir adolygu unrhyw Lwfans Byw i'r Anabl a roddir er mwyn sicrhau bod rhywun yn cael y swm iawn yn ei fudd-dal.

Os cewch ffurflen ymholiad, peidiwch â phoeni, ni fydd eich budd-dal presennol yn cael ei newid oni fydd yr adolygiad yn tynnu sylw at newid yn eich hawliad presennol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y swm yn cael ei addasu'n briodol, felly gall y swm a gewch fod yn fwy neu'n llai. Os nad oes unrhyw newidiadau sylweddol, bydd eich dyfarniad yn aros yr un fath ag o'r blaen.

Ceisiadau am adnewyddu ac adolygu

Os ydych chi wedi bod yn cael Lwfans Byw i'r Anabl am gyfnod penodol, rhaid i chi wneud cais arall am adnewyddu eich budd-dal ychydig cyn i'ch hawl ddod i ben. Gelwir hyn yn ‘gais adnewyddu’. Ymdrinnir â cheisiadau adnewyddu yn yr un ffordd yn union â hawliadau newydd, felly, mae'n bosib y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol.

Os am gyfnod amhenodol y rhoddwyd y budd-dal i chi, gan amlaf, ni fydd yn rhaid i chi wneud cais adnewyddu. Fodd bynnag, weithiau, gellir adolygu dyfarniadau amhenodol, ac fe all fod yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol arall fel rhan o'r adolygiad.

Eich hawliau mewn archwiliad meddygol

Fel arfer, cynhelir yr archwiliad meddygol yn eich cartref chi'ch hun (neu yn lle bynnag y byddwch chi'n byw) ar adeg sy'n gyfleus i chi. Mae'n bosib hefyd y caiff ei gynnal mewn Canolfan Archwiliadau Meddygol yn eich ardal chi. Fe ddylech gael saith niwrnod o rybudd cyn yr archwiliad, ond fe allech ofyn am apwyntiad cyn hynny petai'n well gennych.

Os collwch chi'ch apwyntiad cyntaf, rhaid i'r meddyg roi ail gynnig ar ymweld â chi. Os collwch chi ddau apwyntiad, neu os gwrthodwch gael archwiliad meddygol, mae'n bosib y gwrthodir eich cais am fudd-dal.

Mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • cael ffrind, perthynas neu weithiwr cefnogi gyda chi yn yr archwiliad meddygol
  • gofyn am gyfieithydd os oes angen
  • gofyn am gael archwiliad gan feddyg o'r un rhyw â chi

Rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaethau Meddygol ymlaen llaw os ydych chi'n dymuno cael cyfieithydd neu feddyg o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosib mewn rhai ardaloedd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU