Ar ôl i chi gael archwiliad meddygol ar gyfer y Lwfans Gweini, bydd y Gwasanaethau Meddygol yn anfon yr adroddiad i'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, sy'n delio â cheisiadau am fudd-daliadau.
Bydd rhywun nad yw'n feddyg yn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr (y 'penderfynwr') yn ystyried yr adroddiad ochr yn ochr â'r holl wybodaeth arall a ddarparwyd ar gyfer eich hawliad ac yn penderfynu a ddylid cymeradwyo'ch cais ac ai'r gyfradd uchaf ynteu'r gyfradd isaf o'r Lwfans Gweini y mae gennych yr hawl iddi. Cewch lythyr yn nodi eu penderfyniad.
Bydd yr holl wybodaeth feddygol sy'n berthnasol i'ch cais, gan gynnwys adroddiad y meddyg ar sail yr archwiliad meddygol, yn gyfrinachol ac ni chaiff ei rhyddhau i neb y tu allan i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd y meddyg am anfon rhywfaint o wybodaeth am eich archwiliad meddygol at eich meddyg teulu. Dan yr amgylchiadau hynny, bydd y Gwasanaethau Meddygol yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn a ydych chi'n fodlon iddynt wneud hynny.
Fel arfer, bydd angen oddeutu 22 diwrnod gwaith i brosesu cais am Lwfans Gweini, o'r diwrnod y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n derbyn eich ffurflen gais. Gallwch holi sut mae'ch cais yn dod yn ei flaen drwy alw'r llinell gymorth Anabledd.
Rhif ffôn: 08457 12 34 56
Ffôn testun: 08457 22 44 33
Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd y cafodd yr archwiliad meddygol ei gynnal, gallwch gwyno wrth y Gwasanaethau Meddygol. Esbonnir y drefn gwyno yn y llythyr gawsoch chi am eich archwiliad meddygol.
Cewch gwyno hefyd wrth y meddyg adeg yr archwiliad. Os na allan nhw ddatrys y broblem, byddan nhw'n rhoi taflen i chi'n esbonio'r drefn gwyno ffurfiol. Gallwch hefyd ffonio'r llinell gymorth Anabledd i ofyn am gyngor am sut i gwyno wrth y Gwasanaethau Meddygol.
Os ydych chi'n meddwl bod y penderfyniad am eich cais am fudd-dal yn anghywir, neu os ydych chi'n anghytuno â faint o Lwfans Gweini a roddwyd i chi, gallwch wneud y canlynol:
Cewch ofyn am gael copi o adroddiad y meddyg unrhyw bryd. Os byddwch chi'n apelio yn erbyn y penderfyniad am eich Lwfans Gweini, cewch weld adroddiad y meddyg fel rhan o'r broses apelio.
Cewch eich Lwfans Gweini naill ai am gyfnod penodol neu gyfnod amhenodol. Bydd y penderfynwr yn pennu cyfnod eich lwfans gan ystyried ai anabledd neu salwch parhaol sydd gennych ynteu a fydd eich anghenion o bosib yn newid.
Os am gyfnod penodol y rhoddir eich lwfans i chi, fe'ch gwahoddir i wneud cais newydd chwe mis cyn i'r lwfans ddod i ben. Gelwir hyn yn ‘gais adnewyddu’. Prosesir ceisiadau adnewyddu yn yr un ffordd yn union â hawliadau newydd, felly, mae'n bosib y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol.
Os am gyfnod amhenodol y rhoddwyd y budd-dal i chi, gan amlaf, ni fydd yn rhaid i chi wneud cais adnewyddu. Fodd bynnag, weithiau, gellir adolygu dyfarniadau amhenodol, ac fe all fod yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol arall fel rhan o'r adolygiad.