Taliad wythnosol yw'r Budd-dal Analluogrwydd (BA) i bobl dan oedran pensiwn y wladwriaeth na allan nhw weithio oherwydd anabledd neu salwch.
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am Fudd-dal Analluogrwydd, fel arfer, fe gewch Asesiad Galluogrwydd Personol, oni bai bod gennych chi anabledd neu salwch difrifol sy'n golygu eich bod mewn categori sy'n cael ei eithrio (gall y swyddfa sy'n delio â'ch cais roi mwy o wybodaeth i chi am y drefn eithrio).
Fe all yr Asesiad Galluogrwydd Personol olygu archwiliad meddygol, os oes angen rhagor o wybodaeth am eich cyflwr cyn prosesu'ch cais.
Asesiad Galluogrwydd Personol yw'r prif asesiad ar gyfer hawliadau Budd-dal Analluogrwydd. Bydd meddyg cymeradwy, sydd wedi'i hyfforddi i drin hawliadau Budd-dal Analluogrwydd, yn asesu eich hawliad ac yn cynghori'r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gyfrifol am hawliadau budd-dal.
Mae'n bosib y bydd y meddyg yn argymell y dylech chi gael archwiliad meddygol os teimla bod angen rhagor o wybodaeth am eich cyflwr.
Bydd yr Asesiad Galluogrwydd Personol yn cael ei wneud:
Pan fyddwch chi'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd, rhaid i chi lenwi holiadur am sut mae'ch anabledd neu'ch salwch yn effeithio ar eich gallu i gwblhau tasgau beunyddiol. Mae'n bosib y gofynnir i'ch meddyg eich hun ddarparu adroddiad meddygol.
Bydd meddyg cymeradwy'n ystyried yr holiadur ac unrhyw adroddiadau meddygol, ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth yr ydych chi o bosib wedi'i darparu. Os bydd y meddyg yn teimlo y bydd angen rhagor o wybodaeth ar yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn iddynt allu gwneud penderfyniad am eich hawliad am fudd-dal, byddant yn argymell y dylech gael archwiliad meddygol.
Gallwch wneud rhywfaint o waith wrth eich bod yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd, o fewn terfynau. Gelwir hyn yn 'Waith a Ganiateir' ac mae'n fodd i chi brofi eich gallu eich hun i wneud rhywfaint o waith a dysgu sgiliau newydd o bosib.
Ni fydd y ffaith eich bod wedi dechrau gwneud gwaith a ganiateir yn golygu o anghenraid y bydd rhaid i chi gael archwiliad meddygol. Fodd bynnag, os gofynnir i chi ddod am archwiliad meddygol am ryw reswm arall, ni fydd y ffaith eich bod yn gwneud gwaith a ganiateir yn cyfri yn erbyn eich hawliad.
Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi ddod am archwiliad meddygol. Yn aml iawn, y rheswm yw bod angen mwy o wybodaeth cyn cymeradwyo'ch cais. Nid yw'n golygu bod y wybodaeth roesoch chi ar eich ffurflen gais yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Ni chaiff eich cais am fudd-dal ei wrthod heb i chi naill ai gael archwiliad meddygol neu gael cynnig un.
Fel arfer, cynhelir yr archwiliad meddygol yn un o'r Canolfannau Archwiliadau Meddygol yn eich ardal chi. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n ddigon iach i deithio neu os ydych chi'n byw fwy na 90 munud o waith teithio o'r ganolfan agosaf, mae'n bosib y daw'r meddyg i'ch gweld gartref.
Rhoddir rhybudd i chi am yr apwyntiad ac fe gewch gyfle i newid yr amser os nad yw'n gyfleus. Mae'n bwysig iawn i chi ddod am archwiliad meddygol oherwydd os na wnewch chi, fe allai hynny effeithio ar eich budd-dal.
Os, am ryw reswm, na allwch chi ddod yno, dylech gysylltu â'r Ganolfan Archwiliadau Meddygol ymlaen llaw a threfnu apwyntiad arall.
Mae gennych yr hawl i'r canlynol:
Rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Archwiliadau Meddygol ymlaen llaw os ydych chi'n dymuno cael cyfieithydd neu feddyg o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosib mewn rhai ardaloedd.