Pwrpas archwiliad meddygol ar gyfer eich Lwfans Byw i'r Anabl yw cael darlun cyffredinol o sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio arnoch dros gyfnod o amser. Nid cipolwg o'ch iechyd ar ddiwrnod eich apwyntiad mohono.
Mae'n bwysig dweud wrth y meddyg os bydd eich cyflwr yn newid o dro i dro ac ai diwrnod da ynteu ddiwrnod gwael yw'r diwrnod hwnnw.
Cyn eich archwiliad meddygol, mae'n beth da meddwl sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich bywyd beunyddiol. Efallai yr hoffech feddwl am y pethau hyn:
Bydd y meddyg am wneud yn siŵr pwy ydych chi cyn dechrau'r archwiliad, er mwyn cadarnhau mai chi yw'r person y maen nhw i fod i'w weld.
Bydd eich pasport, os oes gennych un, yn ddogfen ddigonol ar ei phen ei hun – neu fe ofynnir i chi ddangos tair dogfen, er enghraifft, eich tystysgrif geni, trwydded yrru lawn, eich polisi aswiriant bywyd a chyfriflenni banc.
Yn ystod eich archwiliad meddygol, mae'n bosib y cewch chi brawf golwg neu brawf clyw, os yw hyn yn berthnasol i'ch anabledd. Mae'n bosib y bydd y meddyg am eich gweld yn defnyddio unrhyw gymhorthion y byddech chi fel arfer yn eu defnyddio.
Fel canllaw bras, fe ddylech ganiatáu oddeutu awr ar gyfer eich archwiliad. Weithiau, fe ellir cwblhau archwiliadau meddygol mewn llai o amser o lawer, yn enwedig os mai dim ond ar un peth penodol y bydd y meddyg yn edrych.
Bydd y meddyg yn eich holi am y math o help y mae ei angen arnoch ac am unrhyw broblemau a gewch chi wrth symud o gwmpas. Mae'n bwysig rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch chi i'r meddyg. Os bydd rhywun arall yn dod i'r archwiliad meddygol gyda chi i fod yn gefn i chi, mae'n bosib y bydd y meddyg yn gofyn am eich caniatâd i holi'r person hwnnw ar wahân. Bydd y meddyg yn ysgrifennu datganiad i gofnodi'r hyn a ddywedasoch yn y cyfweliad. Bydd y wybodaeth hon yn rhoi darlun cliriach o'ch anghenion i'r penderfynwr.
Mae'n bosib y bydd y meddyg yn penderfynu y byddai archwiliad corfforol o gymorth. Dylent wastad esbonio beth fydd hyn yn ei olygu gyntaf a gwneud yn siur eich bod yn hapus i'r archwiliad fynd rhagddo. Mae'n bwysig dweud wrth y meddyg os byddwch chi'n teimlo unrhyw anifyrrwch. Ni fyddant yn gofyn i chi wneud dim byd sy'n peri poen neu anifyrrwch i chi.
Bydd y meddyg hefyd yn ysgrifennu adroddiad am yr archwiliad ac yn ei ddychwelyd at y sawl sy'n gwneud y penderfyniad gyda'ch datganiad wedi'i lofnodi. Fel arfer, ysgrifennir yr adroddiad hwn ar ôl yr archwiliad, ac ni fyddwch yn ei weld cyn iddo gael ei gyflwyno i'r sawl sy'n gwneud penderfyniad.
Cewch ofyn am gopi o adroddiad y meddyg gan y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad. Byddan nhw'n ei anfon atoch drwy'r post.